Andrew Capel
Andrew Capel
Dragonfly Solutions Limited
Trosolwg:
Cwmni hyfforddi TGCh a datblygu meddalwedd
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Rhanbarth:
Powys

Cwmni datblygu meddalwedd a hyfforddiant TG ydym ni, sy'n defnyddio Microsoft Office yn bennaf. Yn fy nghyrsiau hyfforddiant dw i’n canolbwyntio ar drosglwyddo gwybodaeth dechnegol i bobl mewn ffordd y gall pobl sydd heb feddwl technegol ei ddeall.

Rwyf wedi gweithio yn y busnes TG ers graddio mewn Technoleg o Brifysgol Loughborough ym 1985.  Cyn sefydlu’r busnes, roeddwn yn gweithio i amrywiol gwmnïau fel datblygwr, hyfforddwr a chymhorthydd TG, bob amser ar yr ochr feddalwedd.

Os ydych yn bwriadu gweithio i chi eich hun, yna mae’n bwysig gwneud rhywbeth rydych chi’n hoffi ei wneud. Meddyliwch amdano fel cwch yr ydych yn hwylio arno gan adael iddo fynd â chi i ble bynnag a fynno, yn fodlon archwilio yn ogystal â gwrthod cyfleoedd.

Andrew Capel - Dragonfly Solutions Limited

Dechreuais wrth ddarparu hyfforddiant un-i-un gyda grwpiau bach o bobl, a dw i'n dal i wneud hynny heddiw. Dw i hefyd yn datblygu systemau gweinyddol ar gyfer busnesau gan ddefnyddio Microsoft Office.

Un o’r prif broblemau oedd cael fy nhywys mewn i gyfleoedd nad oedd yn gweddu â’r busnes craidd. Dw i wedi deall ei bod hi’n well bod yn ddistaw nac yn tu hwnt o brysur.

Dw i wrth fy modd efo'r hyblygrwydd a'r rhyddid i wrthod gwaith, a mod i'n cael treulio mwy o amser gyda'm teulu a chael blasu diddordebau eraill.

Dw i wrth fy modd yn pasio’r hyn rydw i wedi’i ddysgu ymlaen i genedlaethau’r dyfodol. Dw i hefyd yn credu bod ffyniant a gwydnwch pobl yng Nghymru yn dibynnu ar ddatblygu ein Busnesau Bach a Chanolig ein hunain.

Gwefan: http://www.dragonflysolutions.co.uk/