Helo, Andrew Cronin ydw i, sylfaenydd Aim Art in Movement, sy’n cynnig gwasanaethau Rhedeg / Parkour am ddim i rai sy’n 7 oed neu’n hŷn.
Sefydlais AIM er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fy ardal yn ogystal â chynnig chwaraeon hwyliog a chreadigol. Fy nghenhadaeth yw cael effaith gymdeithasol yn fy nghymuned trwy addysgu a hybu manteision y math yma o chwaraeon.
Rwy’n awyddus iawn i newid y gymuned er gwell; rwyf wedi gwneud hyn drwy fynd at bobl ifanc i gynnig gweithgareddau eraill y gallan nhw eu gwneud. Ffactor arall sy’n fy nghymell yw’r teimlad o undod wrth weithio fel tîm yn y dosbarthiadau.