Mae ein gwasanaethau yn cynnwys; cyfrifon blynyddol, trethi, cyflogres, casglu dyledion, cadw cyfrifon a TAW. Rydyn ni’n arbenigo mewn helpu busnesau newydd yn ogystal â pharatoi a chynghori ar gynlluniau busnes ar gyfer busnesau newydd a'r rhai sy'n ehangu. Rydw i'n cynnig gwasanaeth gwirioneddol bersonol a lleol i fusnesau bach. O ganlyniad i hynny, mae canran uchel o fy musnes yn deillio o gael fy argymell gan gleientiaid blaenorol.
"Ni allaf orbwysleisio pwysigrwydd paratoi. Does dim modd gwneud gormod o ymchwil cyn dechrau eich busnes eich hun. Mae pob profiad o fyd gwaith o ddefnydd, hyd yn oed os ydyw i'w weld yn amherthnasol ar y pryd."
Ann Lovatt - Owl Accountancy Services
Rydw i'n Aelod Cymrawd cymwysedig o Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifeg ac mae gen i dros bum mlynedd ar hugain o brofiad o waith cyfrifeg. Ar ôl cael fy hyfforddi'n wreiddiol gyda Deloittes, rydw i wedi treulio'r rhan fwyaf o fy mywyd gwaith gyda busnesau lleol bach.
Mae gen i brofiad helaeth o bob sector busnes, yn enwedig y diwydiant adeiladu a'r gymuned ffermio. Rydw i hefyd wedi bod yn gweithio gyda busnesau ym meysydd adwerthu, tafarndai, gweithwyr iechyd proffesiynol, rheoli eiddo a llawer mwy, gan gynnwys cantorion opera a milfeddygon!
Chwilio am gleientiaid newydd yw'r rhan anoddaf o fy ngwaith gan fod pobl yn aml yn amharod i newid y cyfrifydd sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd. Hyd yma, rydw i wedi dibynnu ar bobl yn dod ata i gan fod rhywun wedi fy argymell neu drwy hysbysebu'n lleol, ond rydw i wedi dechrau rhwydweithio yn ddiweddar i geisio cael mwy o gleientiaid.
Rydw i wrth fy modd gyda'r hyblygrwydd o redeg fy musnes fy hun. Fodd bynnag, gall hynny fod yn anfantais hefyd gan fy mod yn gorfod gweithio'n hwyr ac ar benwythnosau ar adegau prysur.
Rydw i’n gallu cynnig fy mhrofiad personol i o fyd busnes yn ogystal â'r profiad o weld nifer fawr o fusnesau yn dechrau. Mae rhai yn methu, tra bod eraill yn mynd o nerth i nerth, ond ychydig iawn sy'n difaru rhoi cynnig arni.