Mae Annette Gee yn berchen ar ac yn rhedeg canolfan weithgareddau awyr agored tri deg erw, gan gynnig gweithgareddau Pledu Paent, Tag Laser, Saethu Colomennod Clai, Saethyddiaeth a Meithrin Tîm. Roedd pledu paent yn arfer bod yn hobi i Annette ond ar ôl cael profiad o fewn y diwydiannau gwerthu a marchnata, penderfynodd fanteisio ar y cyfle i ddechrau’r cwmni pledu peli paent cyntaf yn Ne Cymru.
Mae Cymru angen mwy o entrepreneuriaid, os ydych chi’n meddwl bod gennych rywbeth i’w gyfrannu, dylech ei feithrin a’i ddatblygu, gweithio'n galed, gwneud yn siŵr eich bod yn gweld eich breuddwydion a'ch goliau ar waith a gosod cerrig camu i’w cyflawni.Annette Gee - Taskforce Paintball Games
Un o'r anawsterau mwyaf y bu’n rhaid i Annette wynebu oedd gorfod cau ei busnes yn 2001 oherwydd yr argyfwng clwy'r traed a'r genau. Roedd yn golygu bod yn rhaid iddi ddiswyddo ei holl aelodau staff ac ni chafodd unrhyw iawndal ar ôl y clwy. Er gwaethaf hyn, daeth Annette yn ôl yn gryfach ac arallgyfeirio’r cwmni fel y gallai ddarparu ar gyfer gweithgareddau Saethyddiaeth, Tag Laser, Pledi Peli Paent Effaith Isel, Saethu Colomennod Clai, Plymio Sgwba a Meithrin Tîm.
Roedd y meddwl clyfar hwn yn rhannol o ganlyniad i ddylanwad tad Annette arni. Dwedodd fod ei thad wastad wedi ei hannog i fod yn entrepreneuraidd ac mae'n teimlo fel pe bai llawer o'i llwyddiant yn deillio o’i agwedd ef yn ystod ei magwraeth.
Y rhyddid o allu gwneud beth mae hi eisiau pan mae hi eisiau, ynghyd â'r annibyniaeth a’r ffordd o fyw mae ei swydd yn rhoi iddi, yw’r hyn y mae Annette yn ei garu fwyaf am fod yn fos ar ei hun.
Darllenwch i ddeall sut rydw i’n rheoli fy musnes o ddydd i ddydd!