Ben Giles
Ben Giles
Ultima Cleaning
Trosolwg:
Glanhau lleoliadau lle mae troseddau, hunanladdiadau, llofruddiaethau a'r math yna o bethau wedi'u cyflawni
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Ceredigion

Fe adewais yr ysgol ar ôl fy arholiadau TGAU yn 16 oed, ac fe sefydlais gwmni glanhau fel fy musnes cyntaf. Erbyn i mi fod yn 18 oed, ro'n i'n cyflogi dau o bobl eraill, ac mae'r busnes wedi datblygu ers hynny.

"Penderfynwch ble ydych am fyw yn gyntaf, cyn meddwl am syniad sy'n seiliedig ar eich ardal. Rhaid i'ch busnes fod yn addas ar gyfer yr ardal yr ydych yn byw ynddi."

Ben Giles - Ultima Cleaning

Yn y flwyddyn 2000, fe sefydlais Ultima Cleaning a newid cyfeiriad ryw ychydig.

Mae'r busnes yma yn arbenigo mewn glanhau lleoliadau lle mae troseddau, hunanladdiadau, llofruddiaethau a'r math yna o bethau wedi'u cyflawni.

Mae'r heddlu, cymdeithasau tai, cynghorau a'r cyhoedd ymysg ein cwsmeriaid.

 

Oherwydd yr ardal yr ydym yn byw ynddi, mae angen arallgyfeirio i feysydd gwahanol gan nad oes digon o waith ym maes glanhau arferol yn unig.

Mae'r busnes wedi datblygu'n fawr ac rydyn ni’n cynnig hyfforddiant erbyn hyn. Dechreuais yr hyfforddiant gan fod cynifer o bobl wedi cysylltu â mi am eu bod eisiau gweithio ym maes glanhau lleoliadau troseddau. Felly, fe sefydlais Academi Genedlaethol y Glanhawyr Lleoliadau Troseddau.

Rwy'n mwynhau'r cyfrifoldeb a'r heriau a wynebir bob dydd gan fy mod yn mwynhau gwneud penderfyniadau.


Cysylltu gyda Ben