Ben Hofmeister from Archer Sports Management
Ben Hofmeister
Archer Sports Management & KOKORA
Trosolwg:
Asiantaeth chwaraeon ac ychwanegion bwyd organig a gwasanaethau iechyd
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Caerdydd

Dechreuais fy musnes cyntaf (Archer Sports Management) yn ystod fy ail flwyddyn yn y brifysgol. Mae goresgyn heriau, bod yn annibynnol a’m cariad at chwaraeon wedi bod yn rhan ganolog o’m personoliaeth erioed.

Pan oeddwn yn astudio, sylweddolais fy mod am roi cynnig ar sefydlu fy nghwmni fy hun. Ac roedd yr amseru’n ddelfrydol gan fy mod yn ifanc, yn uchelgeisiol a heb ymrwymiadau teulu.

Yn ei hanfod, asiantaeth farchnata yw Archer Sports Management sy’n arbenigo yn y sector chwaraeon a digwyddiadau. Rydym yn gweithio gyda deiliaid hawliau chwaraeon, sef athletwyr, clybiau, cynghreiriau a sefydliadau i’w helpu i feithrin partneriaethau nawdd a phartneriaethau masnachol gyda brandiau (un enghraifft o hyn yw’r Principality sy’n noddi Undeb Rygbi Cymru a stadiwm Principality).

Fe wnaethon ni ddechrau drwy weithio gyda chlybiau chwaraeon amatur lleol. Dros amser, ac ar ôl gwneud sawl camgymeriad a dysgu gwersi ohonynt, rydym wedi mynd o nerth i nerth gan weithio gyda chleientiaid proffesiynol yn cynnwys EIHL, Undeb Rygbi Cymru, Y Gweilch, CageWarriors, Seiclo Prydain, Clwb Criced Morgannwg ac eraill.

Rydym yn credu mai un ffordd y gall brandiau adrodd eu stori a chyflwyno eu gwerthoedd yw drwy feithrin cysylltiad emosiynol â’u cwsmeriaid, a hynny drwy rywbeth sy’n gyffredin rhyngddynt... sef chwaraeon.

Eleni, lansiais fy ail gwmni, KOKORA, sy’n gweithio ym maes iechyd a lles drwy ddarparu gwasanaethau a chynnyrch naturiol ac organig, yn cynnwys olew CBD a sesiynau myfyrdod.

Y rheini sy’n methu’n gynnar ac yn methu’n aml, ond bob amser yn dysgu o’r methiannau. 

Rwy’n credu’n gryf mai yn ein meddyliau ni mae’r rhwystrau mwyaf. Yn y lle cyntaf, os ydych chi’n angerddol am rywbeth, boed hynny’n bwnc, yn weithgaredd, yn ddiwydiant neu’n newid rydych chi am ei weld, rhaid i chi fwydo’r angerdd hwnnw. Mae’n bosib y bydd y llwybr yn anodd, ond bydd yn werth chweil a byddwch yn llwyddo yn y diwedd. Yn ail, peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau neu fethu. Rhaid i chi fethu er mwyn dysgu rhywbeth. Mae’r bobl hynny sy’n ystyried eu bod yn ddysgwyr am oes yn sylweddoli hynny – y rheini sy’n methu’n gynnar ac yn methu’n aml, ond bob amser yn dysgu o’r methiannau. Yn olaf, rhaid i chi wneud ymdrech fwriadol i fwynhau’r daith ac nid dim ond yr uchelgais ar y diwedd. Mae bywyd yn daith ac nid cyrraedd pen y daith yw’r nod.