Entrepreneur yn ei arddegau yn frwd dros fusnes gyda’i fenter entymoleg
Darllenwch ymlaen i ddarganfod sut y dechreuodd Cameron ei busnes ei hun gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru. Os ydych chi eisiau gwybod mwy am ddechrau eich busnes eich hun, cofrestrwch yma i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddigwyddiadau a chyfleoedd ac i dderbyn Canllaw Cychwyn Busnes rhad ac am ddim. Os ydych yn barod i ddatblygu eich syniad busnes ymhellach gallwch siarad ag un o'n cynghorwyr busnes. Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook, Instagram neu Twitter.
Mae bachgen ifanc 17 oed o Lanelli, sy’n dymuno dilyn ôl troed ei arwr, David Attenborough, wedi agor yr ail siop entymoleg yng Nghymru, gan droi ei ddiddordeb mewn pryfed pan oedd yn blentyn yn fusnes.
Mae Cameron Reardon yn ei flwyddyn olaf yng Ngholeg Sir Gâr. Sefydlodd y siop bryfed foesegol, Bug Box UK ac yntau ond yn 16 oed, ar ôl gweld bod bwlch yn y farchnad yng Nghymru.
Yn ogystal â gwerthu trychfilod ecsotig, mae Bug Box UK yn cynnig sesiynau gafael, ‘dosbarthiadau goresgyn ofn’ sy’n ceisio helpu pobl i drechu unrhyw ffobia sydd ganddynt, ac yn cynnal rhaglenni addysg lle mae Cameron yn dysgu pobl ifanc am drychfilod ecsotig. Mae Bug Box UK yn cynnig tri chynllun addysgol ar gyfer ystod eang o oedrannau sy’n amrywio o lefelau ysgol gynradd, ysgol gyfun a chweched dosbarth.
Ers lansio’r siop, mae Cameron wedi cynnal ei raglen addysg mewn ysgolion yn ardal Sir Gaerfyrddin yn ogystal â chynnal gweithdai yn Nhŷ Aberdafen, sef canolfan ailsefydlu yn dilyn anaf i’r ymennydd yn Llanelli. Ond, mae’n gobeithio mynd â’i sesiynau addysgol i ysgolion ar hyd a lled Cymru yn y dyfodol.
Mae Cameron yn teilwra ei weithdai ar gyfer ysgolion i adlewyrchu materion sy’n effeithio ar amgylcheddau trychfilod ar y pryd, er mwyn i’r rhaglenni addysg fod yn berthnasol. Er enghraifft, yn ddiweddar, mae wedi bod yn canolbwyntio ar drychfilod brodorol fel gwenyn, sy’n gostwng yn sylweddol o ran niferoedd.
Mae Bug Box UK hefyd yn cynnig y cyfle i bobl sydd ofn trychfilod oresgyn hynny. Cynhelir y sesiynau mewn grwpiau er mwyn annog aelodau eraill. Bydd pobl yn gafael mewn pryfed bychan i ddechrau cyn symud ymlaen i afael mewn trychfilod llawer mwy fel tarantwlaod neu nadroedd cantroed.
Dywedodd Cameron: “Rwyf wedi bod wrth fy modd â phryfed a thrychfilod erioed, ac mae gen i dros hanner cant o wahanol rywogaethau ar hyn y bryd. Rwyf wedi bod yn gwylio rhaglenni teledu pobl fel Steve Irwin a David Attenborough ers amser maith, ac wedi dysgu pa mor bwysig yw anifeiliaid i’r amgylchedd ar ôl bod yn gwylio’r rhaglenni hynny. Datblygodd hyn i fod yn rhywbeth rwy’n teimlo’n frwdfrydig iawn yn ei gylch, a nawr rwyf am ddysgu eraill am fyd bendigedig y trychfilod.
“Mae ar bobl ofn trychfilod yn gyffredinol o hyd, ac rwy’n gobeithio mynd i'r afael â hyn drwy’r rhaglenni addysg a’r dosbarthiadau goresgyn ffobia, er mwyn i bobl allu deall yn union pa mor bwysig yw trychfilod o bob math a maint i’n ecosystem.”
Dechreuodd Cameron ei fusnes gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, y gwasanaeth entrepreneuriaeth i ieuenctid yng Nghymru. Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Busnes Cymru, ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’r gwasanaeth yn cael ei anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes. Cyflwynodd Cameron ei fusnes yn nigwyddiad Dathlu Syniadau Mawr yn Stadiwm Liberty, Abertawe yn ddiweddar.
Lansiodd Cameron Bug Box UK tra roedd yn astudio hefyd. Ar hyn o bryd mae’n astudio Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Sir Gâr, cyn cychwyn ar gwrs gradd Busnes a Marchnata ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Medi.
Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd yn rhedeg fy musnes fy hun ac yn cael cwrdd â nifer fawr o wahanol fathau o bobl bob dydd. Mae’n wych cael bod yn fos arnaf fi fy hun hefyd. Fel hyn rwy’n gallu gweithio’n galed er mwyn llwyddo a pharhau i astudio.
“Clywais am Syniadau Mawr Cymru drwy’r Hyrwyddwr Entrepreneuriaeth, Becky Pask yn y coleg. Fe wnaeth hi fy nghyfeirio i at y gwasanaeth, ac yna helpodd Syniadau Mawr Cymru fi i sefydlu fy musnes.”
Ychwanegodd Cameron: “Gweithiodd Syniadau Mawr Cymru gyda mi i ddatblygu fy nghynllun busnes, ac roedd bob amser yn cynnal amryw o ddigwyddiadau gwych ar gyfer pobl fusnes ifanc. Fe wnes i fynd i weithdy allforio yn Llanelli, ac roedd wir yn agoriad llygad. Helpodd y digwyddiad fi i ddeall sut mae allforio i wahanol wledydd yn y dyfodol.”
Mae Samantha Allen, cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru, wedi bod yn cydweithio’n agos â Cameron i’w helpu i ddechrau ei fusnes. Dywedodd: “Dim ond 17 oed yw Cameron, ac mae’n dal i astudio yn y coleg. Ond er hyn, mae’n llwyddo i redeg busnes llwyddiannus hefyd. Mae’n enghraifft wych o entrepreneur ifanc uchelgeisiol a phenderfynol, ac alla i ddim aros i weld sut bydd Bug Box UK yn tyfu yn y dyfodol.”
Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Cameron ac eisiau gwybod mwy am ddechrau eich busnes eich hun, cofrestrwch yma i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddigwyddiadau a chyfleoedd ac i dderbyn Canllaw Cychwyn Busnes rhad ac am ddim. Os ydych yn barod i ddatblygu eich syniad busnes ymhellach gallwch siarad ag un o'n cynghorwyr busnes. Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook, Instagram neu Twitter.