Carol Hughes
Phytorigins
Trosolwg:
Cwmni Gwyddorau Bywyd arbenigol sy’n cyflenwi cyfansoddion planhigion naturiol er budd iechyd ceffylau ac anifeiliaid anwes.
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Gwynedd

Rwy wedi bod yn hunan-gyflogedig ers mwy na 26 mlynedd, ac yn credu erioed eich bod chi’n medi beth rydych chi’n ei hau. Rwy wedi astudio microbioleg a gwyddor milfeddygaeth, ond ni fu gen i unrhyw gymwysterau busnes ffurfiol erioed.

Yn gynharach yn fy ngyrfa, teithiais o amgylch y byd gyda cheffylau rasio, gan ymgyrchu a chynghori a ffitrwydd ceffylau rasio. Mae dros 80% yn sâl neu’n gloff pan maen nhw’n rhedeg, a chan fod pob cyffur wedi’i wahardd ar eu cyfer, daeth yn amlwg i mi fod angen dewis amgen cyfreithlon naturiol.

Cymerodd benderfyniad dyfal i gychwyn y busnes, ond ers hynny rydym ni wedi ennill clod fel Gwobr Arloesi Busnes Prifysgol Bangor 2014, a’n nod ni nawr yw arwain y byd yn ein maes.

 

Mae Phytorigins yn Gwmni Gwyddor Bywyd sy’n datblygu canolfan ragoriaeth ar gyfer Biowyddorau a defnyddio cemegau planhigion fel meddygaeth. Mae gan Dr Carol Hughes wledd o brofiad ym maes microbioleg a ffisioleg ceffylau ac mae wedi gweithio yn y diwydiant ers 25 o flynyddoedd gan ymchwilio i ddefnyddio cyfansoddion planhigion gwyllt Prydain at ddibenion cyflyrau cyffredin mewn anifeiliaid, yn enwedig y sawl sy’n gysylltiedig â gordewdra a llid. Mae Phytorigins yn cydweithio â thair prifysgol yng Nghymru ac un brifysgol yn Iwerddon. Mae cwmni arall Carol, ‘Superfix’, wedi datblygu ychwanegiadau llysieuol gwrth-lid ac i’r perfedd mewn cydweithrediad ag ymchwil yn Newmarket. Yn 2013, nhw oedd y cwmni cyntaf yng Nghymru i wneud cais am Siarter Cynaliadwyedd ac yn 2014 enillon nhw Wobr Arloesedd am brosiect o’r enw Racehorses - Seasalt – Science.

 

Ffactorau Llwyddiant: Bod yn benderfynol; brwdfrydedd dros y busnes; cyflenwi cynhyrchion ansawdd da i ddiwallu’r galw

Sgiliau Busnes: Cychwyn Busnesau; e-fasnach; Arloesi; Masnach Ryngwladol

Gwefan: www.phytorigins.com