Caryl Thomas behind a desk
Caryl Thomas
Sparkles Cleaning Service
Trosolwg:
Commercial and Domestic Cleaning Services
Sectorau:
Gwasanaethau Gofal
Rhanbarth:
Castell Nedd Port Talbot

Helo Caryl Thomas ydw i, rwy’n 23 oed ac yn dod o Lansawel. Cychwynnais y busnes ar ddechrau fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol fel y gallwn ddechrau gweithio’n syth ar ôl graddio.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi ehangu o lanhau’n unig i wasanaethau masnachol a domestig sy’n amrywio o gyflenwi busnesau, smwddio, gwaith tŷ, gwasanaethau anifeiliaid anwes, gwasanaethau garddio, glanhau carpedi a nifer o rai eraill er mwyn creu pecynnau pwrpasol wedi eu teilwra i ddiwallu anghenion fy nghwsmeriaid, yn fasnachol a domestig.

Ar ôl graddio ac ennill gradd dosbarth cyntaf, ddeufis yn ddiweddarach enillais wobr Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn 2014 yng ngwobrau busnes De Cymru. Erbyn hyn mae gennyf 3 aelod o staff ac rwyf ar hyn o bryd yn y broses o gyflogi mwy mewn pryd erbyn y Nadolig wrth i ni lansio ein pecynnau Nadolig.

“Fel perchennog busnes rwy’n credu’n gryf mewn creu amgylchedd gwaith moesegol lle mae fy staff yn mwynhau eu gwaith a’r gweithle”.