Rydw i wedi bod yn gyflwynydd tywydd ar S4C ers pedair mlynedd ar hugain ac rwy'n dal i fwynhau her y swydd. Yn ogystal â chyflwyno'r tywydd, rwy'n parhau i weithio fel dyn camera a chyfarwyddwr o bryd i'w gilydd.
Rydw i hefyd yn brysur dros ben yn arwain, cynnal, cyflwyno a chadeirio cynadleddau, seremonïau gwobrwyo ac arddangosfeydd.
"Ceisiwch gael cyngor gan amrywiaeth o bobl a sefydliadau a'i dderbyn. Mwynhewch ac ewch amdani!"
Chris Jone - Chris tywydd Jones
Yn ddiweddar, fe gerddais ar hyd lwybr yr Incas ym Mheriw; roedd hyn wastad wedi bod yn uchelgais i mi ac roedd brofiad bythgofiadwy.
Rydw i wedi bod yn gweithio gyda dau gwmni nwyddau yng Nghymru drwy gynllunio a chynhyrchu ystod eang o gynhyrchion y cartref ar y thema 'Y Tywydd'.
Fe wnes i lansio casgliad newydd o ddillad i blant ifanc yn Eisteddfod yr Urdd - rhywbeth yr wyf yn falch iawn ohono.
Fe gefais fy ngeni a fy magu yn Aberaeron, ger y môr yng gorllewin Cymru, felly rydw i wedi ymddiddori'n fawr yn y tywydd ers fy mhlentyndod. Ar ôl gadael Ysgol Uwchradd Aberaeron, fe gefais fy hyfforddi fel dyn camera a theithiais y byd yn gweithio i gwmnïau, corfforaethau a sianelau amrywiol. Yn ystod y cyfnod hwn, fe gefais y cyfle i weithio o flaen y camera ac fe wnes i fwynhau'r profiad yn fawr.
Ro'n i wastad wedi bod eisiau gweithio imi fy hun, a chael cydbwysedd priodol rhwng gwaith a theulu. Rydw i wrth fy modd gyda'r rhyddid y mae'n ei roi imi. Fi sy'n gyfrifol am reoli fy hun ac am greu a datblygu syniadau a phosibiliadau.
Hoffwn gynnig fy mhrofiadau a fy syniadau creadigol ac ymarferol i bobl ifanc, eu hysbrydoli a'u hannog i beidio â dilyn y llwybr cyfarwydd bob amser. Mae bywyd bob amser yn cynnig gwahanol gyfleoedd a dewisiadau.