Christopher Roberts
Inner Frame
Trosolwg:
Cynhyrchwyr cofroddion mewn ffram i gofnodi digwyddiadau
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Conwy

Meddyliais am syniad ar gyfer fy musnes cyntaf ar hap pan roeddwn i’n 48.  Cyn hynny roeddwn wedi gweithio yn y diwydiant gwasanaethau mecanyddol. Roeddwn i'n meddwl y byddai nifer o gwmnïau, cymdeithasau, clybiau a sefydliadau eraill yn hoffi nodi pwynt mewn hanes – dathlu pen-blwydd priodas, cyflawniad nodedig, er enghraifft - mewn rhyw ffordd.  Yn Inner Frame, rydym yn cynhyrchu cofroddion coffaol i gofnodi digwyddiadau o'r fath mewn ffrâm.  Maent yn unigryw, yn bersonol ac yn ddel i edrych arnynt.
 
Po fwyaf rydych chi'n ei roi mewn i'ch busnes, y mwyaf y byddwch yn ei gael allan ohono.
Christopher Roberts - Inner Frame
 
Dw i wedi dysgu’r rhan fwyaf o'r elfennau busnes fy hun, er fe wnes i ddarllen llawlyfr busnes a ysgrifennwyd yn 1936 a ddangosodd i mi fod llawer o'r sgiliau allweddol yr un fath mewn gwirionedd.
 
Bellach, dw i’n rhedeg tri chwmni arall, gan gynnwys menter gymdeithasol sy'n codi arian ar gyfer achosion haeddiannol, ond hefyd yn hyrwyddo’r syniad fod angen cydwybod gymdeithasol ar fusnesau.