Claire Cawte
Claire Cawte
Claire Cawte Textiles
Trosolwg:
Dylunio tecstilau gan arbenigo mewn deunyddiau naturiol
Sectorau:
Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
Rhanbarth:
Caerdydd

A minnau'n rhiant sengl mewn swydd ran-amser oedd yn mynd i nunlle, ro'n yn awyddus i wneud rhywbeth newydd dros fy hun.

"Siaradwch â phobl, gofynnwch gwestiynau, dangoswch frwdfrydedd, byddwch yn onest a chredwch yn eich hun. Ni waeth pa mor galed yw'r gwaith, mwynhewch y profiad oherwydd does wybod pa gyfleoedd sydd ar gael ar eich cyfer."

Claire Cawte - Claire Cawte Textiles

Fe astudiais gwrs mynediad mewn Celf a Dylunio ac yn ystod yr amser y bues i'n astudio'r cwrs, fe gefais fy annog i gyflwyno cais i brifysgol, ac ro'n i wrth fy modd pan gefais gynnig lle.

Dim ond hobi oedd hyn ar y dechrau, a doedd gen i ddim syniad faint y byddai'n newid fy mywyd.

Erbyn hyn, rwy'n ddylunydd /gwneuthurwr tecstilau sy'n creu amrywiaeth o ategolion gan gynnwys sgarffiau, mentyll, carthenni, clustogau a darnau celf wedi'u fframio.

Rydw i'n arbenigo mewn deunyddiau naturiol a lliwiau planhigion naturiol, ac rydw i'n gwerthu fy ngwaith mewn orielau, ffeiriau crefft ac yn arddangos yn aml.

Rydw i'n cwrdd â phobl greadigol bob dydd ac yn cael eu hysbrydoli ganddyn nhw. Mae gallu gwneud fy mhenderfyniadau fy hun a chael y cyfle i gydweithio ag artistiaid eraill yn bwysig imi.