Clare Ferguson-Walker
CFW Designs
Trosolwg:
Cynhyrchwyr cerfluniau cyfyngedig
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerfyrddin

Artist ydw i, cerflunydd yn bennaf, ac fe gychwynnais drwy geisio gwerthu ychydig o fy narnau. Nid oedd gennyf gynllun pellach na hynny, ond wedyn aeth pethau o nerth i nerth, a chyn i mi wybod, roeddwn i’n rhedeg fy musnes fy hun.  Roedd yn anodd iawn i ddechrau – aeth popeth a allai fynd o'i le, o’i le, ond fe ddysgais lwythi o bethau yn y flwyddyn gyntaf, yn bennaf am gychwyn eto ar ôl methu! 
 
Ewch amdani - os nad ydych yn cymryd y cam cyntaf hwnnw, ni fyddwch byth yn gwybod os allwch chi hedfan. Ac os ydi pethau’n mynd o’i le, ceisiwch eto nes bod eich adenydd yn ddigon cryf!
Clare Ferguson-Walker - CFW Designs
 
Erbyn hyn, mae fy musnes yn darparu cerfluniau gwreiddiol a darnau cyfyngedig mewn cerameg, efydd a resin efydd, yn bennaf drwy orielau sefydledig. Mae gen i weithdy yn fy nghartref, ac rwy’n gweithio gyda thîm bychan yr wyf yn ymddiried yn llwyr ynddynt.