Dale Williams
Dale Williams
Yolk Recruitment
Trosolwg:
Arbenigwyr recriwtio
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Caerdydd

Fi yw cyd-sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Yolk Recruitment. Rydyn ni'n gwmni recriwtio gwahanol ac arloesol sy'n cynnig RPO, gwasanaethau recriwtio wedi'i gadw ac wrth gefn i gleientiaid yn y DU. Mae ein cleientiaid yn amrywio'n fawr ac yn cynnwys busnesau bach a chanolig, a brandiau byd-eang.

"Ewch amdani! Credwch yn eich syniad a mynd amdani."

Dale Williams - Yolk Recruitment

Pan oedd y dirwasgiad ar ei waethaf yn 2009, fe sefydlais Yolk ar y cyd.

Rhoddodd y cwmni fywyd newydd i farchnad oedd wedi dyddio drwy ysgogi a meithrin tîm penderfynol a phenodol o'r safon uchaf, a nhw yw asgwrn cefn ein cwmni hyd heddiw.

Mae Yolk wedi trawsnewid y diwydiant recriwtio yn ne Cymru drwy gyflwyno cystadleuaeth iach a heriol, gwella safonau'r diwydiant, hybu dull newydd sy'n rhoi'r ymgeisydd yn gyntaf, a datblygu model recriwtio sy'n ymgysylltu ac yn rhoi gwerth ychwanegol.

A minnau'n Rheolwr Gyfarwyddwr, rydw i'n gyfrifol am symud y cwmni ymlaen drwy esblygu'n barhaus ac ymateb i farchnad sy'n newid drwy'r amser.

Drwy weithio'n agos gyda'r bwrdd a'r uwch-dîm rheoli, rydw i'n arwain prosesau goruchwylio strategol ac yn asesu cyfleoedd i dyfu mewn ffyrdd cynaliadwy.

Ar yr un pryd, rydw i'n gwneud yn siŵr fod gennym weithlu brwdfrydig sy'n datblygu ac yn ceisio gwella'n barhaus er mwyn gwireddu'r weledigaeth yr ydym yn ei rhannu

Rydw i'n entrepreneur angerddol ac uchelgeisiol sy'n ennill ei blwyf, ac mae Sefydliad y Cyfarwyddwyr a'r Cyfryngau wedi fy nghydnabod fel Seren Newydd ym Myd Busnes, ac enillais wobr Cyflawnydd Busnes Ifanc y Flwyddyn yr IWA.

Erbyn hyn, mae Yolk yn gweithio mewn sawl lleoliad ac mae wrth ei fodd gyda'r her o recriwtio pobl o bobman, boed yn lleol neu o bedwar ban y byd. Drwy rannu llwyddiant ein twf, rydyn ni wedi tyfu gyda'n cleientiaid ac wedi dyblu ein twf bob blwyddyn mewn modd cyson a chynaliadwy, yn ogystal â mynd ati'n ddiflinio i feithrin cysylltiadau parhaus.


Cysylltu gyda Dale