Dan Fitzgerald
Daniel Fitzgerald
RecRock
Trosolwg:
Mae RecRock yn cynnal gweithdai cerddoriaeth
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerffili

Doeddwn i ddim wedi bwriadu cychwyn fy musnes fu hun, jest dechrau wnes i. Ychydig o gefnogaeth oedd yna oddi wrth y Ganolfan Waith ar gyfer cerddorion, ac roeddwn i eisiau defnyddio fy sgiliau a’m i wneud rhywbeth roeddwn i’n ei garu cymaint felly es i ati ar fy mhen fy hun. Mae RecRock yn cynnal gweithdai cerddoriaeth, yn ymgysylltu ag ysgolion a phobl ddi-waith, ac yn cynnig sesiynau cerddoriaeth therapiwtig i bobl â phroblemau iechyd meddwl.

Gwnewch yn siŵr fod gennych chi amser, angerdd a chefnogaeth o’ch cwmpas chi - efallai tra’ch bod chi’n byw gartref gyda’ch mam a thad ac mae gennych chi ychydig o fudd-daliadau neu arbedion i’ch cefnogi chi

Daniel Fitzgerald - RecRock

Pe bai gen i f’amser i drosodd, faswn i’n canolbwyntio mwy ar farchnata o’r cychwyn cyntaf, mae’n rhan mor bwysig o fusnes.  Ond dwi ddim eisiau i’r cwmni dyfu’n rhy fawr chwaith – dwi jest eisiau tîm agos o bobl cŵl sy’n hapus gyda’u swyddi.

Gwefan: recrock.co.uk