Rydw i’n dod o Ogledd Cymru yn wreiddiol, ond wedi graddio o Brifysgol Caerdydd ar ôl astudio Economeg, penderfynais mai’r brifddinas oedd y lle delfrydol i sefydlu Alpacr.
Fe wnes i ddechrau meddwl am yr ap pan oeddwn i yn y Brifysgol, ond doeddwn i ddim yn gallu rhoi fy holl sylw ac ymrwymo’n llwyr iddo nes i mi raddio. Rydyn ni wedi dod yn bell iawn ers y syniad cychwynnol hwnnw. Rydyn ni wedi ennill cystadleuaeth Virgin Voom, pan gefais gyfle i gael brecwast gyda Syr Richard Branson.
Rydw i’n ffodus iawn – does dim byd gwell na bod yn rhan o dîm mor gefnogol. Mae rhannu syniadau, arbenigedd, sgiliau a llwyddiannau yn rhywbeth cadarnhaol iawn i’w wneud. Un o aelodau ein tîm ydy Tyler, cyn-Brif Weithredwr YikYak – ap rhwydweithio cymdeithasol a oedd, flwyddyn ar ôl ei sefydlu, werth $400m. Gyda’n gilydd, rydyn ni hefyd wedi sicrhau buddsoddiad chwe ffigur, ac wrthi’n cynllunio ein cylch buddsoddi nesaf. Peidiwch â chamddeall, rydyn ni wedi cael cyfnodau da yn ogystal â chyfnodau gwael. Er enghraifft, ar un adeg, doedd dim digon o arian i lansio na hyd yn oed i orffen yr ap. Ac ar yr un pryd, dim ond gwerth mis o arian rhent oedd gen i ar ôl yn y banc.
Fe wnaethon ni lansio’r ap ym mis Gorffennaf 2018, a theithio ar hyd a lled Ewrop gyda’n tîm marchnata i’w hyrwyddo. Mae’r ap wedi cael ei ddefnyddio’n helaeth ers hynny, ac mae mwy a mwy o bobl yn ei ddefnyddio. Rydyn ni’n gobeithio sicrhau £1m yn ein cylch buddsoddi nesaf, er mwyn datblygu’r ap i’r cam nesaf.
Fe hoffwn i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, a helpu talentau ieuengaf a mwyaf disglair Cymru i ddod o hyd i’w sbardun entrepreneuraidd.