David Saunders
David Saunders
Agile Therapy Ltd
Trosolwg:
Clinig gofal iechyd amlddisgyblaethol ym Mhenlan, Caerdydd yn ymdrechu i wneud pobl yn fwy ‘Agile!’
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Caerdydd

Fi yw Cyfarwyddwr a Chlinigydd Arweiniol Agile Therapy, sef clinig gofal iechyd amlddisgyblaethol ym Mhenlan, Caerdydd. Fi hefyd yw Cyfarwyddwr Agile in Work, sy'n cyflwyno diwylliant Agile i weithluoedd!

Doeddwn i ddim yn hoffi cael fy rheoli a doedd dim llawer o opsiynau gwaith ar gael - dyna sut dechreuodd Agile Therapy. Mae’n rhaid i mi roi clod i fy ngwraig hefyd. Hi wnaeth fy ysbrydoli a rhoi’r hyder i mi ddechrau busnes. Rydw i’n cyfaddef mai hi sy’n fy rheoli i yn ogystal â rheoli Agile Therapy!

Rydw i’n wynebu problemau yn fy mywyd ac yn fy ngwaith, ac rydw i’n cydnabod fy mod i’n methu yn rheolaidd. Fodd bynnag, rydw i’n croesawu'r methiannau hynny erbyn hyn ac yn edrych arnyn nhw fel cyfleoedd i ddatblygu.

Y peth gorau am fod yn fos arnaf i fy hun yw gallu datblygu tîm a gweld y tîm hwnnw’n ffynnu. Hefyd, mae'r oriau afreolaidd yn gweddu’n dda iawn i mi.

O ran cyngor, mae’n anodd osgoi’r ystrydebau: rhaid i chi fethu, methu a methu eto, gan edrych ar y methiannau hynny fel cyfleoedd dysgu. Siaradwch â llawer o bobl sydd wedi cyflawni’r un math o beth. Peidiwch â chael eich llethu gan ddamcaniaethwyr... er eu bod nhw'n glyfar, maen nhw’n tueddu i guddio tu ôl i lyfr!