Dawn Evans
Ajuda Training
Trosolwg:
Affordable Health and Safety courses
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Caerdydd

Mae Ajuda Training yn darparu cyrsiau Iechyd a Diogelwch fforddiadwy i gwmnïau gan gynnwys cyrsiau Cymorth Cyntaf, Trafod Pwysau, Iechyd a Diogelwch, Hylendid Bwyd, Diogelwch Tân a llawer mwy. Darperir y cyrsiau hyn ledled Cymru yn ogystal â gweddill y Deyrnas Unedig.

Mae’r cyfleoedd yna i chi, dylech osod nodau realistig wrth wireddu eich breuddwydion. Peidiwch â bod ofn gofyn am gyngor, a pheidiwch â cheisio dilyn llwybr llwyddiant ar eich pen eich hun.

Dawn Evans - Ajuda Training

Cyfarwyddwr y cwmni yw Dawn Evans, a gafodd ei chymell i greu’r busnes wedi i’w merch gael profiad o dagu pan yn ddwy oed. Yn dilyn hyn, fe sylweddolodd Dawn bwysigrwydd dysgu Cymorth Cyntaf i bawb, yn enwedig i famau. Erbyn heddiw, ei merch a’i thad yn ogystal â geiriau o ddiolch gan gleientiaid sy’n dal i’w hysgogi.

Ei syniad cychwynol oedd cynnal cyrsiau Cymorth Cyntaf yng Nghaerdydd, ond erbyn hyn, mae ei chwmni’n cynnal oddeutu ugain cwrs gwahanol yn ogystal â hyfforddi eraill ledled y wlad. Wrth edrych ymlaen, mae’n gobeithio y bydd ei chwmni’n dod yn frand cryfach yn y DU ac o bosib yn hyfforddi eraill ar raddfa ryngwladol mewn llefydd fel y Dwyrain Canol.

Wrth edrych yn ôl, mae Dawn yn dweud pe byddai wedi gallu gwneud unrhyw beth yn wahanol, fe fyddai wedi bod yn fwy gofalus o ran sicrhau cydbwysedd bywyd gwaith, gan ei bod wedi bod at ei chlustiau mewn gwaith yn ystod ei blwyddyn gyntaf. Erbyn hyn, mae’n dweud ei bod yn canolbwyntio yn fwy ar yr hyn sy’n bwysig ac yn mwynhau pob agwedd o’i gwaith, yn enwedig mai hi yw’r prif berson sy’n penderfynu, a’r hyblygrwydd sydd ganddi i fod yn fam sy’n gweithio

Gwefan: ajuda.org.uk