Dr Arthur Davies
Dr Arthur Davies
QMS (Quality Management Services)
Trosolwg:
Cwmni hyfforddi ac ymgynghori
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Rhondda Cynon Taf

Fe astudiais BA mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Southampton cyn mynd i Gaerdydd i wneud Meistr mewn Addysg, ac yna Ph.D mewn Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd. Ro'n i wastad wedi bod eisiau addysgu/darlithio mewn prifysgol.

"Beth bynnag fo'ch cefndir, gallwch ddatblygu busnesau llwyddiannus sy'n gwneud elw."

Dr Arthur Davies - QMS (Quality Management Services)

Cwmni hyfforddi ac ymgynghori yw QMS, ac fe'i sefydlwyd yn 2001.

Cyn sefydlu fy musnes, ro'n i'n athro ac yn ddarlithydd prifysgol. Ces i fy nghymell i ddechrau fy musnes fy hun gan 2 ffactor.

Yn gyntaf, roedd gen i 'syniad da', ac yn ail, roedd gen i'r sgiliau angenrheidiol i reoli fy musnes fy hun drwy gymwysterau academaidd a phrofiad o reoli.

Ro'n i mewn tafarn gyda fy ffrindiau yn gwylio rhaglen deledu am ddiwydiannau bwydydd amaethyddol yn Ewrop. Wrth sôn am Gymru, dywedon nhw nad oedd diwydiant bwydydd-amaethyddol yma, er bod ganddon ni fwydydd o safon uchel.

Felly, fe feddyliais, 'Pam ddim Cymru? Fe wnes i rywfaint o waith ymchwil, ac ers hynny mae wedi datblygu i fod yn fusnes gwerth miliynau lawer o bunnoedd.