Dr Denise Baker
Moel Faban Suppers
Trosolwg:
Cwmni arlwyo ar gyfer digwyddiadau preifat a blog
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Gwynedd

Cwmni arlwyo a digwyddiadau preifat yw Moel Faban Suppers. Rydym yn gwneud swperau cudd a chaffis symudol. Rwyf hefyd yn ysgrifennu blog bwyd Cymraeg. 
 
I ddechrau, y bwriad oedd rhoi cynnig arni am flwyddyn i weld a fyddai'n gweithio, neu hyd nes y byddwn yn cael swydd 'go iawn'. Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf cefais wahoddiad i gyfweliad ar gyfer Britain’s Best Dish a chysylltodd Rachel’s Diary, blogiwr bwyd, â mi. Gofynnwyd i mi hefyd fod yn gogydd preifat ar gyfer partïon. Roeddwn i'n meddwl bod yna lawer o agweddau o'r hyn yr oeddwn yn ei wneud y gallwn ei droi yn fusnes llwyddiannus, felly ym mis Ionawr 2011 sefydlais Moel Faban Suppers.
 
Os ydych yn caru beth yr ydych yn ei wneud, rhowch bopeth i mewn iddo. Peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar bethau, cofiwch beidio ag ymestyn gormod ar eich hun. Byddwch yn realistig am eich syniad busnes a gwnewch eich gwaith ymchwil. 
Denise Baker - Moel Faban Suppers
 
Rwy’n cael fy ngwahodd yn rheolaidd i roi dosbarthiadau meistr ac arddangosiadau mewn gwyliau bwyd neu ddosbarthiadau preifat ac rwyf ar hyn o bryd ar fy ngham nesaf, sef agor fy ysgol goginio fy hun yn dysgu sgiliau sylfaenol i'r rhai nad ydynt erioed wedi dysgu sgiliau coginio o’r blaen. 
 
Rwyf wrth fy modd â hyblygrwydd bod yn fos ar fy hun, cael y dewis dros ba waith rwy’n ei gymryd. Rwyf wedi dysgu na allwch ragweld bywyd, weithiau mae pethau'n anodd yn ariannol, yn enwedig pan fo'r busnes bwyd yn araf. 
 
Cefais fy nghymell gan fy niffyg llwyddiant yn yr ysgol, fi oedd yr un na fyddai 'fyth yn cyflawni unrhyw beth'. Yn academaidd fe weithiais yn galed ond roeddwn yn cael trafferth. Flynyddoedd yn ddiweddarach, wrth astudio ar gyfer fy PhD cefais wybod fy mod yn ddyslecsig. 
 
Mewn dwy flynedd mae fy musnes wedi mynd a fi o fod yn academydd di-waith i gogydd sy’n cael ei pharchu, yn ysgrifennwr bwyd a chefnogwr cynnyrch lleol.