Dylan Huws
Dylan Huws
Cwmni Da
Trosolwg:
Un o gwmnïau cynhyrchu annibynnol mwyaf blaengar Cymru
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Gwynedd

Ers iddo gael ei sefydlu yn 1997, mae Cwmni Da wedi datblygu yn un o brif gwmnïau cynhyrchu annibynnol Cymru. Mae cynnyrch cenedlaethol a rhyngwladol y cwmni yn cynnwys rhaglenni ffeithiol, plant, comedi, adloniant, drama, digwyddiadau a chwaraeon. Yn gynhyrchydd o bwys i S4C, mae Cwmni Da hefyd yn creu cynnwys ar gyfer y BBC, C4 ac yn llwyddiannus yn y farchnad gyd-gynhyrchu ryngwladol.

Os wnewch chi feddwl gormod, efallai na fyddwch yn mentro. Mentrwch a dysgwch, hyd yn oed os nad yn llwyddo y tro cyntaf. Methiant yw peidio trio. Trystiwch eich greddf.

Dylan Huws - Cwmni Da

Cyn dechrau Cwmni Da roeddwn wedi bod yn Gynhyrchydd / Cyfarwyddwr am saith mlynedd gyda Ffilmiau’r Nant ac wedi dechrau ennill gwaith fy hun i’r cwmni. Penderfynais fentro fy hun er mwyn cael rheolaeth llwyr ar fy mhrosiectau, yn greadigol ac yn ariannol.

Fy nghyflogwr cyntaf yn y diwydiant teledu oedd Wil Aaron, Ffilmiau’r Nant. Roedd Wil yn ysbrydoliaeth yn ei agwedd tuag at syniadau a rhedeg busnes gan gyfuno’r ddwy elfen yn rhwydd. Roedd yn berson agored oedd wastad yn rhannu profiadau ac yn annog eraill i fentro.

Rwyf bellach yn rhedeg cwmni o dros 70 o bobl ac yn gyfrifol am lywio eraill. Mae’n anoddach dal gafael yn yr ochor greadigol gyda phwysau rheoli ac arwain cyson.

Rwy’n mwynhau y gallu i arwain eraill a gwneud penderfyniadau sy’n dylanwadu ar gyfeiriad a dyfodol y cwmni.

Mae’n bwysig i dyfu yn llwyddiannus heb golli gafael ar y syniad cychwynnol. Mae’r cwmni yn credu yn gryf mewn annog a chefnogi creadigrwydd ond yn ceisio gwneud hynny mewn ffordd bragmataidd sy’n talu ei ffordd.

Fy mhrif bleser yn y gwaith yw annog newydd ddyfodiaid a rhoi cyfle i bobl ifanc gael cyfrifoldeb.

Gwefan: http://www.cwmnida.tv/