Edward Shorney leaning on an exposed engine
Edward Shorney
Go Rookie
Trosolwg:
Online apprenticeship matching service
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Helo Ed Shorney yw fy enw, a fi sydd wedi sefydlu Go Rookie. Ar hyn o bryd rwy’n astudio yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr yn gorffen fy nghwrs Prentisiaeth rhan amser mewn peirianneg. Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn busnesau a’r ffordd y maen nhw’n gweithio, yn ogystal ag ymddiddori mewn peirianneg. Rwy’n gobeithio cyfuno’r ddau yn fy ngyrfa yn y dyfodol.

Pan oeddwn yn gwneud cais am brentisiaethau fy hun sylweddolais nad oedd yr unig wefan ar gael yn y maes hwn yn addas i’r diben. Arweiniodd hyn at gael y syniad ‘Go Rookie Apprenticeship Finder’, gwefan sy’n dilyn yr un patrwm â gwefannau chwilio am swyddi, sy’n seiliedig ar ddod o hyd i brentisiaethau ac ymgeisio amdanynt.

Y prif ffactor sydd wedi fy ysgogi i ddechrau fy musnes fy hun yw’r profiad o fynd drwy’r broses ymgeisio’n bersonol yn y gorffennol a theimlo’n rhwystredig pan nad oedd gwefannau’n gweithio, neu wrth ymgeisio am brentisiaeth ar wahân drosodd a throsodd. Unwaith yr ydych wedi ymgeisio unwaith neu ddwywaith rydych wedi cael llond bol. Fy symbyliad yw helpu a gwella’r ffordd y gall pobl ymgeisio.

Ffactor arall yw bod yn fos arnoch eich hun a sefydlu eich targedau eich hun. Mae cyfle i wneud rhywbeth gwahanol ac arwain y ffordd yn rhywbeth newydd. Mae meddwl am ddechrau fy musnes fy hun yn gwneud i mi deimlo’n gyffrous. Rwy’n hoff iawn o her newydd. Mae gen i ddigon o gymhelliant i gychwyn fy musnes fy hun.

Mae GoRookie yn wasanaeth paru prentisiaethau ar-lein newydd sydd wedi ei greu’n benodol i helpu cwmnïau i ddod o hyd i’r prentisiaid mwyaf addas iddynt mor gyflym a rhwydd â phosibl. Arbedir amser ac arian drwy symleiddio’r broses i ymgeiswyr sy’n chwilio ac yn ymgeisio am brentisiaeth drwy ddefnyddio’r wefan sy’n dilyn yr un patrwm â gwefannau chwilio am swyddi.