Elliw Williams
Elliw Williams
Atom PR
Trosolwg:
Erbyn hyn rydym yn darparu gwasanaethau PR i bob math o wahanol gleientiaid
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Gwynedd

Sefydlais i Atom PR yn 2002 pan oeddwn yn 22, newydd adael y brifysgol. Bues i’n gweithio i gwmni PR lleol yn ystod fy mlwyddyn fwlch a gweithio ar fy liwt fy hun wrth astudio am radd ac wedyn gradd meistr mewn gwleidyddiaeth.  Roedd y profiad hwnnw’n amhrisiadwy i mi a rhoddodd yr hyder i mi gychwyn fy musnes fy hun.  Ymunodd fy rhieni fel cyfieithwyr a thair blynedd wedi hynny dyma fy chwaer yn ymuno fel cyd-gyfarwyddwr.

Mynnwch weledigaeth glir o beth rydych yn ceisio ei gyflawni ac ailystyriwch yr weledigaeth honno’n rheolaidd.  Dim ond drwy wybod ym mha gyfeiriad rydych chi’n ceisio mynd y gallwch chi wneud yn siŵr eich bod chi ar y llwybr cywir.

Elliw Williams - Atom PR

Erbyn hyn rydym yn darparu gwasanaethau PR i bob math o wahanol gleientiaid, o Gemau’r Gymanwlad Cymru ac Ystâd Grosvenor i gwmnïau ynni, awdurdodau lleol a busnesau yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd.  Mae rhedeg ATOM wedi rhoi’r cyfle i mi deithio a chwrdd â phobl ddiddorol o bob maes. Un o’r uchafbwyntiau yn ddiau oedd helpu i gychwyn Gŵyl y Dyffryn Hollt yn Kenya.

Gwefan: atompr.com