Emily Gallagher
Emily Gallagher
Ells and Hers
Trosolwg:
Helping our customers stand out from the crowd
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Caerdydd

Fy enw i yw Emily Gallagher, rwy’n 22 oed ac yn byw yng Nghaerdydd! Ar ôl graddio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2013 penderfynais fod angen i mi wneud rhywbeth yr oeddwn yn teimlo’n frwd drosto ac y byddwn yn ei fwynhau.

Aeth fy mhartner busnes, Kat, a minnau i Her Syniadau Mawr Cymru yn Ionawr 2014 - fel dwy ferch gyda syniad! Cefais fy nghymell a fy ysbrydoli gan yr her yn fawr, ac yno mewn gwirionedd y crëwyd Ells and Hers! Ar ôl y sesiwn hyfforddi dwys, roedd Kat a minnau’n ddigon ffodus i gael cyfle i weithio gyda chwmni o’r enw Simply Do, sy’n helpu pobl ifanc i gychwyn eu busnes eu hunain! Dyma ble datblygodd y syniad yn fusnes.

Mae Ells and Hers yn siop ar-lein sy’n gwerthu Dillad Ddoe. Mae’n ceisio cynnig dillad unigryw i ferched am bris fforddiadwy. Rydym yn teithio’r wlad yn dewis y gwisgoedd a fydd yn gwneud i’n cwsmeriaid sefyll allan!

Ers lansio Ells and Hers yn Rhagfyr yn 2014, rydym wedi llwyddo i wneud pethau na ddychmygwyd fyddai wedi bod yn bosibl. Yn ogystal â’r ffaith bod y wefan yn llwyddiant mawr, rydym hefyd wedi agor ein siop ein hunain ar ASOS Marketplace sy’n rhoi cyfle i gyrraedd cynulleidfa ehangach. Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau Ffasiwn Dillad Ddoe ar draws y wlad, sy’n golygu ein bod yn dod i adnabod ein cwsmeriaid ar lefel fwy personol er mwyn gallu deall yn iawn am beth maen nhw’n chwilio! Gallwch hefyd weld Ells and Hers yn rhifyn Mai o gylchgrawn Cosmopolitan.

Rwyf yn awyddus iawn i helpu plant iau, fel fi fy hun, i sylweddoli bod cychwyn eich busnes eich hun yn ffordd wych i wneud yr hyn yr ydych yn ei hoffi ac nad yw mor anodd a brawychus ag y mae pobl yn ei ddychmygu!