Frankie Hobro
Frankie Hobro
Sw Môr Môn
Trosolwg:
Canolbwyntio ar gynaladwyedd, prosiectau addysg cymunedol, chadwraeth forol a rhaglenni bridio a rhyddhau
Sectorau:
Morol
Rhanbarth:
Ynys Môn

Mae gan Frankie Hobro, Cyfarwyddwr a Pherchennog Sw Môr Môn, hanes hir o weithio ar brosiectau cadwraeth ymarferol gyda rhywogaethau sydd mewn perygl critigol dan amodau anodd tramor. Bu’n eiriolwr angerddol erioed am gadwraeth, yn enwedig rhywogaethau sydd mewn perygl a chadwraeth forol. Wedi treulio llawer o’i phlentyndod yng Ngogledd Cymru ac ar Ynys Môn, dychwelodd Frankie i wneud astudiaethau ôl-raddedig, yna ymgartrefu ar Ynys Môn 11 o flynyddoedd yn ôl pan brynodd Sw Môr Môn, gan ddod yn unig Berchennog a Chyfarwyddwr y busnes yn 2013. Mae Sw Môr Môn yn unigryw am fod yn gartref i rywogaethau morol o Brydain yn unig, gan ganolbwyntio ar gynaladwyedd, prosiectau addysg cymunedol, chadwraeth forol a rhaglenni bridio a rhyddhau rhywogaethau brodorol caeth sydd mewn perygl fel morfeirch a chimychiaid.