Gaenor Roberts
Gaenor Roberts
Tlws
Trosolwg:
Cynhyrchydd gemwaith arian, gwisgoedd a gwydr
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Conwy

Bûm yn gweithio fel athrawes ysgol gynradd cyn sefydlu fy musnes fy hun - roeddwn eisiau rhoi cynnig ar fod yn hunangyflogedig a rhoddais fy rhybudd ymadael o’r gwaith heb wir wybod beth oeddwn yn mynd i’w wneud! Sefydlais Tlws, sef busnes gwneud gemwaith, yn gwneud gemwaith arian sterling, gemwaith gwisgoedd a gwydr, yn y cartref. Erbyn hyn mae gennym siop yn Abergele a gwefan ar-lein; rydym hefyd yn gwerthu mewn digwyddiadau mawr ac yn cynnal partïon gemwaith. 
 
Ymchwiliwch yn ofalus i’r busnes rydych am ei sefydlu ac yna ewch amdani - peidiwch ag aros am yr 'amser perffaith' i ddechrau gan nad yw byth yn cyrraedd!
Gaenor Roberts - Tlws
 
Roeddwn i'n meddwl y byddai'n fusnes bach, ond aeth pethau o nerth i nerth yn gyflym iawn a bu’n rhaid i mi weithio'n galed iawn i wneud yn siŵr nad oedd yn mynd allan o reolaeth. Roedd y flwyddyn gyntaf yn gromlin ddysgu enfawr, ond mae pob camgymeriad a wnewch yn rhoi profiad gwerthfawr i chi.