Gafyn Stiff
Time For YouCleaning Ltd
Trosolwg:
Yn darparu gwasanaethau glanhau wythnosol i bobl sydd angen help i gadw i fyny â’u gwaith tŷ
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Rhondda Cynon Taf

Rydym yn gwmni sy'n cyflwyno glanhawyr domestig (a masnachol yn achlysurol) i’n cleientiaid sydd angen help i gadw ar ben gwaith tŷ yn wythnosol.

Gadewais y brifysgol yn 1997 a dod yn athro addysg gorfforol mewn ysgol gyfun am 15 mlynedd cyn i mi benderfynu newid llwybr gyrfa. Penderfynodd fy ngwraig a minnau ein bod eisiau/ angen ein glanhawr ein hun pan oedd fy mab yn 2 oed. Roeddem ill dau yn athrawon a oedd yn gweithio'n galed a heb fawr o amser. Sylweddolais fod hyn o bosibl yn ffynhonnell arian a dechreuais feddwl am opsiynau posibl.

Meddyliwch yn ofalus am yr hyn rydych chi a'ch busnes yn ei gynnig i’r farchnad. Cynlluniwch yn drylwyr a gwneud eich gwaith cartref. Yna, ewch amdani.

Gafyn Stiff - Time For you Cleaning Ltd

Roeddwn yn hoffi'r syniad o fod yn fos ar fy hun a pheidio â dilyn cyfarwyddyd rheolwyr yr ysgol nad oeddwn bellach yn eu parchu. Roeddwn hefyd eisiau treulio mwy o amser gyda fy nheulu ac i gael cydbwysedd gwell rhwng gwaith a bywyd.

Rwyf wrth fy modd â’m rhyddid amser. Nid yw fy mywyd bellach yn cael ei redeg gan gloch yr ysgol. Rwy'n treulio llawer mwy o amser gwerthfawr gyda fy nheulu nag erioed o'r blaen. Gallaf weithio cyn galeted neu gyn lleied ag y dymunaf a dim ond bod yn atebol i fi fy hun.

Rwyf wrth fy modd gyda’r hyn yr wyf yn ei wneud fel bywoliaeth a byddwn yn annog pob person ifanc i herio'r llwybr ysgol-coleg-prifysgol-gwaith traddodiadol ac i feddwl am y posibiliadau a'r gwobrau sy'n dod o redeg eich busnes eich hun yn llwyddiannus.

Gwefan: http://timeforyou.cleaning/uk/home-cleaning/bridgend/