Gail Swan
Swans’ Farm Shop
Trosolwg:
Siop Fferm
Sectorau:
Ffermio a choedwigaeth
Rhanbarth:
Sir Y Fflint

Mae fy ngŵr a minnau yn rhedeg Swans Farm Shop & Ffrith Farm mewn artneriaeth. Fe wnaethom arallgyfeirio a sefydlu’r siop yn 2003 oherwydd enillion gwael ac anrhagweladwy o'r fferm.

Cael llyfr ysbrydoliaeth a syniadau, ysgrifennwch eich syniadau i lawr, efallai mai hwn yw'r syniad gorau, ond nid yr adeg iawn. 

Gail Swan - Swans Farm Shop

Mae'r busnes wedi tyfu'n barhaus dros y 12 ml ynedd diwethaf ac mae wedi bod yn fraint cael bod yn rhan ohono. Rydym yn ffermio 200 erw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, lle mae gennym wartheg, moch, ieir buarth, gwenyn i wneud einmêl ein hunain ac rydym yn tyfu gwellt, silwair, gwenith a haidd i fwydo ein da byw.

Roedd rhaid i mi gau'r busnes dros dro rai blynyddoedd yn ôl ar ôl anafu fy nghefn mewn damwain car erchyll, ond fe wnaethom ailagor oherwydd y galw gan ein cwsmeriaid ffyddlon. Rwyf wrth fy modd â’r hyn yr wyf yn ei wneud, er bod rhedeg eich busnes eich hun yn golygu eich bod yn treulio pob munud effro arno!

Gwefan: swansfarmshop.co.uk