Garath Williams
Siarad Network Limited
Trosolwg:
Darparwr gwasanaethau telathrebu sydd wedi'i gofrestru'n annibynnol
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Rhanbarth:
Abertawe

Mae Siarad Network yn ddarparwr gwasanaethau telathrebu sydd wedi'i gofrestru'n annibynnol. Rydyn ni’n cynnig cynhyrchion a gwasanaethau teleffoni sylfaenol a gwasanaethau band eang cyflym iawn i fusnesau, yn ogystal â chynnyrch teleffoni symudol a theleffoni IP.

"Dilynwch eich greddf. Mae brwdfrydedd ac uchelgais yn llawer pwysicach na mae rhai pobl yn ei feddwl."

Garath Williams - Siarad Network Limited

Ni yw'r gorau am ddarparu rhwydwaith ffôn i fusnesau yng Nghymru o ran cysylltedd ar gyfer llais a data, boed hynny drwy wifren sefydlog, symudol neu'n ddi-wifr.

Mae'n fusnes gwirioneddol Gymreig. Mae wedi'i leoli yng Nghymru, mae'n cyflogi Cymry ac mae'n cefnogi busnesau a sefydliadau o Gymru.

Fe adewais yr ysgol yn ddau ar bymtheg oed wedi imi ailsefyll fy arholiadau, ac roeddwn yn rheolwr adwerthu pan oeddwn yn 18 oed. Fe ddechreuais weithio yn y sector telathrebu wedi hynny pan gefais swydd fel cynrychiolydd gwerthu.

Ar y dechrau, dynion busnes fel Jack Cohen a Richard Branson oedd fy modelau rôl. Fodd bynnag, pan nes i ddechrau fy musnes fy hun, dyn busnes lleol o'r enw Julian Kiley wnaeth fy ysbrydoli drwy ei ddoethineb, ei gyngor a'i waith caled.

Roedd y syniad o allu rheoli fy nhynged yn apelio hyd yn oed yn fwy na'r manteision ariannol sy'n gysylltiedig â rheoli fy musnes fy hun.

Pe byddai DRM wedi bod o gwmpas pan oeddwn yn fy arddegau, baswn wedi bod yn hunangyflogedig lawer ynghynt!

Rydw i eisiau helpu ac ennyn diddordeb y genhedlaeth nesaf.


Cysylltu gyda Garath

Website Icon