gaz
Gaz Thomas
Gaz Thomas Media Ltd
Trosolwg:
Datblygwr gemau annibynnol i wefan boblogaidd
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Conwy

Dechreuais greu gemau am ddim yn fy amser rhydd pan oeddwn i yn y Brifysgol. Aeth un o’r gemau’n feiral a chael ei chwarae dros 100,000 o weithiau. Rhoddodd hynny’r hyder imi fwrw ati i fod yn entrepreneur ym myd y we ac i ddatblygu gemau’n llawnamser ar ôl imi orffen fy nghwrs. Ers hynny, rwyf wedi llunio dros 100 o gemau ac maent wedi’u chwarae dros biliwn o weithiau. Rwyf hefyd wedi cael cymeradwyaeth BAFTA ac wedi torri Record Byd Guinness.

"Daliwch ati i weithio’n galed a gallwch ei droi’n fusnes da. Gallai hyn oed ddatblygu i fod yn fusnes gwych."

Gaz Thomas - Gaz Thomas Media Ltd

Rhan bwysig o entrepreneuriaeth imi yw rhoi cynnig ar syniadau newydd. Rwy’n hoff o lunio gemau-mini a’u rhoi ar y we i gael barn pobl. Os oes un o’r syniadau hyn yn cael canmoliaeth yna byddaf yn ei ddatblygu ymhellach, ond fel arall byddaf yn symud ymlaen i’r syniad nesaf.

 

Sefydlais fy musnes gydag ychydig iawn o arian a dysgais lawer o’r sgiliau drwy wylio tiwtorialau ar-lein. Fel sy’n wir am unrhyw brosiect hirdymor, mae ffocws, gwytnwch a bod yn benderfynol wedi bod yn ffactorau allweddol er mwyn llwyddo. Nodwedd hanfodol arall yw ymchwilio i’r farchnad a chasglu adborth. Rwyf wedi newid cyfeiriad ac addasu fy strategaeth sawl gwaith ar sail y pethau newydd rwyf wedi’u dysgu.

 

 


Wefan