Gemma Ellen Williams
Gellygen Creative
Trosolwg:
Graphic Design
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Abertawe

Mae Gemma wastad wedi gwybod ei bod hi eisiau gwneud rhywbeth creadigol, ac fe wnaeth hi ddisgyn mewn cariad gyda dylunio graffeg ac mae ganddi radd BA o Brifysgol Cymru, Casnewydd.

Ar ôl ennill ei gradd, fe aeth Gemma yn sâl ac o ganlyniad roedd hi yn methu gweithio oriau rheolaidd. Fe ddaeth yn amlwg nad oedd hi'n mynd i wella yn y dyfodol agos, ac fe benderfynodd ddechrau gwaith llawrydd, rhywbeth yr oedd hi ar fwriad ei wneud eisoes, er mwyn caniatáu iddi i wneud yr hyn yr oedd hi yn ei garu a gweithio oriau oedd yn addas iddi.

Sefydlodd Gellygen Creative ym mis Ionawr 2015 ac mae wedi bod yn tyfu’r busnes ers hynny. Mae Gemma wrth ei bodd yn gweithio iddi hi ei hun, ac ni all dychmygu gwneud unrhyw beth arall.