Geraint Hughes
Geraint Hughes
Bwtri / Madryn / Jones / Calon Lan
Trosolwg:
FFfermwr sy’n dwlu ar fwyd. Meddyliwr. Arloeswr. Ymgynghorydd Bwyd ac Amaeth Llawrydd.
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Gwynedd

Fy ngeni a’m magu ym Mhwllheli a Bangor. Wedi bod i 18 gwlad. Cymar am oes, tad, mab a brawd. Ffermwr sy’n dwlu ar fwyd. Meddyliwr. Arloeswr. Tylluan. Ymgynghorydd Bwyd ac Amaeth Llawrydd.

Sefydlais ‘Bwydydd Madryn Foods’ yn 2012. Brandiau’n cynnwys ‘Jones Crisps,’ olew had rêp o Gymru ‘Blodyn Aur’ a nwyddau ‘Calon Lân’. Wedi methu a llwyddo. Wedi fy nghyfareddu gan bopeth digidol. Rygbi. Seiclo. Wedi dringo holl fynyddoedd Cymru.