Gwenno Dafydd
Gwenno Dafydd Williams
Gwenno Dafydd
Trosolwg:
Darlledydd, awdur a hyfforddwraig arwain a siarad cyhoeddus
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerdydd

Rwyf yn Ddarlledwr, yn Berfformiwr, yn Awdur ac yn Hyfforddwr Arwain a Siarad Cyhoeddus.  
 
Rwyf wedi bod yn hunangyflogedig erioed ac wedi bod yn gweithio mewn swyddi ar fy liwt fy hun ers 1980, gan weithio yn y diwydiannau cyfryngau, perfformio, addysg a busnes. Rwyf yn Hyfforddwr Cysylltiedig yn y Ganolfan Busnes ac Arweinyddiaeth newydd ym Mhrifysgol De Cymru ym Mhontypridd gan weithio ar Lefel Uwch yn y Cynulliad, ac mae gennyf hefyd fy nghleientiaid preifat fy hun. 
 
"Tyfwch eich busnes ochr yn ochr â naill ai swydd ran-amser neu swydd lawn amser a gwnewch yn siŵr bod gennych rywfaint o arian yn dod i mewn cyn i chi daflu’ch hun iddo llawn amser."
 
Gwenno Dafydd Williams - Gwenno Dafydd
 
Mae gen i slot rheolaidd ar raglen deledu cyfrwng Cymraeg, yn ymddangos yn rheolaidd ar y radio ac yn cyflwyno cyrsiau ar Bendantrwydd, Magu Hyder, Siarad Cyhoeddus a Rhwydweithio ar liwt fy hun i gwmnïau a sefydliadau addysgol ledled Cymru a thu hwnt. 
 
Rwyf wrth fy modd â’r rhyddid o beidio â chael bos yn dweud wrthyf beth i'w wneud a gallu rhoi cynnig ar syniadau a gweld ble maent yn mynd â fi. 
 

Cefais fy hyfforddi fel athrawes Ddrama a Chymraeg a ddechreuodd fy 'musnes' yn canu yn y stryd ar hyd a lled y cyfandir.

Mae gen i yrfa gyfoethog iawn sy’n estyn dros ddeng mlynedd ar hugain; darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg ac Iseldireg, dau syniad am raglenni wedi’u comisiynu gan S4C, Cyfarwyddo Prosiectau Theatr mewn Addysg ac rwyf wedi ysgrifennu dros 140 o eiriau caneuon, gan gynnwys Anthem Dydd Gŵyl Dewi.

Gwenno Dafyss and Joan Rivers

Cafodd llyfr ei gyhoeddi yn ddiweddar gan y cyhoeddwyr o Abertawe, Parthian Press, yn dadansoddi y nenfwd wydr drwy chwyddwydr fy angerdd, sef merched mewn comedi. R’oedd y llyfr yma yn ddiweddglo teilwng ar ffrwyth llafur ugain mlynedd o waith ymchwil gydag 84 o bobl ar draws y byd sydd yn ymwneud a’r byd comedi, gan gynnwys 65 o ferched sydd yn gwneud comedi ‘dal-dy-dir’, gan gynnwys enwogion fel Amy Schumer, Joan Rivers, Jo Brand a Jenny Eclair.

 
 
Rwyf bob amser yn rhoi 100% a dim ond fy hun rwy’n dibynnu arni, a gall hynny fod yn eithaf blinedig. Rwyf wedi treulio amser ar brosiectau hapfasnachol sy'n dod i ddim, a all fod yn dorcalonnus iawn, ond rhaid i chi barhau i atgoffa’ch hun o'r pethau cadarnhaol. 

Cysylltu gyda Gwenno