Gwion Llwyd
Gwion Llwyd
Dioni Selfcatering Ltd
Trosolwg:
Asiantaeth sy’n hysbysebu bythynnod gwyliau yn ardal Eryri
Sectorau:
Twristiaeth
Rhanbarth:
Gwynedd

 

Fi yw perchennog Dioni Selfcatering Ltd. Dechreuon ni drwy helpu ffrindiau a chymdogion i hysbysebu eu bythynnod ar gyfer gosodiadau gwyliau, gan ddefnyddio gwasanaethau asiantaeth hysbysebu genedlaethol yn wreiddiol, cyn penderfynu y gallen ni ei wneud yn fwy effeithiol ein hunain.

Ffactorau Llwyddiant: Defnyddio technoleg ddigidol newydd, gan gynnwys camerâu, dronau a meddalwedd olygu

I gychwyn sefydlon ni wefan tair tudalen a defnyddion ni sianeli cyfryngau cymdeithasol fel Youtube i gael archebion; datblygodd hyn yn gyflym yn fusnes asiantaeth mwy o faint, ac erbyn hyn rydym ni wedi bod mewn busnes am fwy na saith mlynedd.

Mae defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd wedi ein helpu i ennill cynulleidfa lawer ehangach.

 

 


Cysylltu gyda Gwion