Hannah Williams portrait
Hannah Williams
Your VA
Trosolwg:
Professional administrative services on a freelance basis
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Sir Fynwy

Rwy’n dod yn wreiddiol o Dde Llundain, ond symudais i Gymru i fynd i’r brifysgol lle astudiais gwrs Rheoli Digwyddiadau. Arhosais yn yr ardal gan weithio dros dro i asiantaeth yn gwneud swyddi gweinyddol, cyn dod o hyd i waith amser llawn ym maes marchnata.

Yna sefydlais yourVA, busnes cymorth rhithiol sy’n darparu gwasanaethau gweinyddol proffesiynol ar sail llawrydd. Mae wedi bod yn rhedeg am 13 mis gyda chleientiaid trwy Dde Cymru a Llundain.

Y flwyddyn nesaf rwy’n ystyried ehangu fy sylfaen cleientiaid a dechrau gweithio gyda chynorthwywyr rhithiol eraill i fy helpu i gyflawni hyn.