Hayley Wheeler
Hayley Wheeler
Trosolwg:
Hyfforddwr Grymuso Emosiynol

Rwy’n hyfforddwr grymuso emosiynol, sy'n arbenigo mewn helpu oedolion a phlant i drechu eu gofid, iselder a straen. 

 

Dechreuais fy musnes ar ôl cael fy mwlio yn y gwaith a gadael y lle yn llanastr emosiynol.  Roeddwn am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. 

 

Roeddwn i eisiau’r rhyddid i weithio ar fy nhelerau fy hun a chynnig fy ngwasanaethau, gwybodaeth a sgiliau i helpu pobl i fyw eu bywyd gorau.  Mae fy musnes wedi newid yn aruthrol o ganlyniad i brofiadau bywyd, ac i ddysgu a chael y gefnogaeth gywir gan berchnogion busnesau.  Does neb yn gwybod sut peth yw gweithio ar eich liwt eich hunan mewn gwirionedd nes i chi roi cynnig arno.  Mae perchnogion busnesau eraill yn f’ysbrydoli i gadw i fynd pan fydd pethau’n mynd yn anodd. 

 

Dioddefais iselder yn 2015 ac roedd fy musnes yn methu yn yr un modd â gweddill fy mywyd.  Nid oeddwn yn gallu gweithredu, doeddwn i ddim yn gwybod at bwy neu sut i gael cymorth ar gyfer fy musnes nes i mi ddechrau siarad â phobl a gofyn cwestiynau, gwrando ar beth oedd ganddynt i’w ddweud a dysgu.  Gadawodd yr iselder i mi ddatblygu fy musnes ymhellach a chreu fy model cymell-hyfforddwr fy hun sef model cymell hyfforddi The Dynamind. 

 

Y peth gorau am fod yn fos arnaf fy hun yw’r rhyddid i drefnu fy ngwaith o amgylch fy nheulu a’r gallu i fod yn greadigol a datblygu gwasanaethau heb orfod gofyn a heb unrhyw gyfyngiadau. 

 

Mynnwch aros yn wir i’ch calon a’ch syniad busnes. Bydd pobl yn cynnig cyngor ac arweiniad, ond dim ond chi sy’n adnabod eich busnes.