Heledd Owen Photo
Heledd Owen
Heledd Owen Illustration
Trosolwg:
Darlunydd llawrydd yn rhedeg siop ar-lein yn gwerthu ei chynnyrch
Sectorau:
Manwerthu
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Ynys Môn

Wedi astudio Darlunio ym Mhrifysgol Caeredin, nes i gymryd cwpl o flynyddoedd allan a gweithio mewn swyddi gwahanol cyn penderfynu cychwyn y busnes yn 2020. Ers hynny dwi wedi mwynhau pob eiliad o fod yn ddarlunydd llawrydd. Mae bod yn fos ar fy hun yn rhoi’r rhyddid imi wneud y gwaith dwi’n ei fwynhau. Un o’r pethau drwg wrth gwrs ydi’r ansicrwydd o beidio gwybod os fydd y gwaith yn dal i ddod, ond mae hyn yn rhywbeth ti’n ei dderbyn - alli di ddim llwyddo heb gymryd y risg.

Yn ogystal a chynnig gwasanaeth llawrydd a derbyn comisiynau, dwi hefyd yn gwerthu cynnyrch dwi wedi eu dylunio, drwy fy siop ar-lein. Rwy’n gwerthu amryw o bethau megis padiau sgwennu, crysau-t, printiau celf, calendrau a cherdiau. Mae llawer o fy ngwaith yn Gymraeg a dwi hefyd wrth fy modd yn defnyddio fy narlunio i hybu iechyd meddwl. Rwyf wedi gweithio’n agos gyda Meddwl.org yn ddiweddar a dwi’n gobeithio i ddal ati i ddefnyddio fy ngwaith i godi arian i achosion da.

Roedd cychwyn busnes ychydig yn ofnus gan mai darlunio ydi fy arbenigedd, nid busnes. Y peth gorau wnes i oedd dweud ia i’r holl help oedd ar gael. Do’n i erioed y person mwyaf hyderus nac uchel, ond gyda amser dwi wedi adeiladu fy hyder a chodi fy llais. Mae ‘na lot fawr o help am ddim ar gael i fusnesau newydd, mond i chi edrych amdano. Dwi wedi ffendio pobl yn garedig iawn hefyd, a’n fwy na hapus helpu a rhoi chyngor, mond i chi ofyn. Y mwyaf o help sydd gennych, y gorau eich siawns o lwyddo felly peidiwch bod ofn ac ewch amdani.

Fy hoff ddywediad – “Whether you think you can or you can’t, you’re right” – Henry Ford.