Helen Gill
Helen Rhiannon
Trosolwg:
Busnes dylunio ffasiwn sydd wedi ennill gwobrau
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Abertawe

Mae Helen Rhiannon yn fusnes dylunio ffasiwn arobryn sy'n arbenigo mewn creu gwisgoedd unigryw, gwreiddiol, wedi’u ffitio’n hardd ar gyfer priodasau ac achlysuron arbennig. Mae Helen Gill wedi gweithio ar ffrogiau i Katherine Jenkins a Natalya Romaniw, a gyrhaeddodd rownd derfynol BBC Canwr y Byd, ac mae hi'n ymfalchïo ym mhob eitem bwrpasol a ddylunnir ac a wneir, beth bynnag fo'r achlysur.
 
Gwnewch gamgymeriadau, gofynnwch i bobl am gymorth a chyngor ac ewch gyda'ch greddf. Os ydych yn mwynhau rhywbeth, neu yn dda am rywbeth, mae'n gwneud bywyd yn llawer haws ac yn llawer mwy o hwyl. Siaradwch am eich syniad a byddwch â hyder yn yr hyn yr ydych yn ei wneud. Peidiwch â chymharu eich hun ormod â phobl eraill, er ein bod i gyd yn euog o hynny!
Helen Gill - Helen Rhiannon 
 
Yn ogystal â chyflenwi stoc arbennig ar gyfer Rachel Burgess Bridal Boutique ym Mhenarth ar hyn o bryd, mae Helen hefyd yn rhedeg Gweithdai Gwnïo All Sewn Up yn Abertawe a De Cymru lle mae amrywiaeth o weithdai ar gael.
 
Cwympodd Helen i sefydlu ei busnes ei hun wrth gytuno i werthu ei chasgliad ffasiwn gradd i fanwerthwr lleol. Bu'n gweithio gyda dylunydd lleol ac yn teimlo y gallai wneud yr hyn roeddent hwy yn ei wneud ac roedd ganddi ei syniadau ei hun am sut y gallai hi wneud hynny. Mae hi’n fanteisgar ac oddi yma, aeth amdani a sefydlodd y label.
 
Esboniodd bod ei rhieni bob amser wedi bod yn hynod gefnogol ac iddyn nhw mae'r diolch am ei chefnogi a'i hannog drwy gydol ei gyrfa. 
 
Heddiw, yr elfen mae Helen wrth ei bodd fwyaf gyda hi am fod yn fos ar ei hun yw’r annibyniaeth a’r boddhad personol mae hi'n ei deimlo pan fo rhywun wedi cael profiad gwych, boed hynny mewn gweithdy neu yn gwisgo ffrog Helen Rhiannon ar ddydd eu priodas.