Huw
Huw Davies Cook
Huw Davies Cook Projects
Trosolwg:
Llysgennad Ifanc - Darparu strategaethau marchnata effeithlon i fusnesau eraill
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Sir Y Fflint

Dechreuais ar fy nhaith entrepreneuraidd yn yr ysgol gynradd lle byddwn yn gwerthu fy hen deganau i ffrindiau ysgol. Yn yr ysgol uwchradd, symudais ymlaen i werthu pethau da. Doedd gen i ddim llawer o hyder yn yr ysgol gynradd nac yn yr ysgol uwchradd. Roeddwn yn cael anhawster mewn pynciau fel ysgrifennu a darllen Saesneg ac ieithoedd tramor.

Mi es ymlaen i wneud blwyddyn sylfaen mewn Peirianneg Fecanyddol yn y Brifysgol. Roedd yn anodd a methais fathemateg yn fy mlwyddyn gyntaf, ond llwyddo yn nes ymlaen. Yna, treuliais rywfaint o amser ym maes diwydiant yn dylunio llosgwyr ar gyfer Balwnau Aer Poeth (flamethrowers: p ) ac, yn ddiweddarach, enillais gystadleuaeth genedlaethol Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol yn Llundain yn 2015 am ddylunio robot. Roeddwn yn cystadlu yn erbyn rhai o fyfyrwyr mwyaf blaenllaw’r wlad. Yn ddiweddarach, mi wnes gwblhau fy ngradd gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf.

Yn ystod fy nghyfnod mewn addysg ffurfiol, wnes i ddim rhoi’r gorau i weithredu ar fy sêl dros fusnes ac entrepreneuriaeth. Ymunais â chwmni marchnata rhwydwaith lle dysgais am bwysigrwydd hunan-ddatblygiad (a gallaf ddweud bod hynny wedi newid fy mywyd). Yna, adeiladais fusnes cabanau gwyliau i ymwelwyr yng Ngogledd Cymru yn ystod fy amser yn y Brifysgol, ac mae hwnnw wedi bod yn llawn ers ei lansio ym mis Rhagfyr 2018.

Yn ystod y broses o adeiladu fy musnes gwyliau, cwympodd coeden fawr ar y to, ychydig ar ôl i mi ei adnewyddu. Hon oedd un o’r gwersi cyntaf a ddysgais. Os yw coeden yn cwympo arnoch, torrwch y goeden yn fân, a’i defnyddio fel tanwydd i’ch gyrru ymlaen …

Yna, deuthum yn Gyd-sylfaenydd Explorage.co.uk. Platfform ar-lein yw hwn sy’n galluogi cwsmeriaid i ganfod, cymharu, archebu a rheoli unedau hunan-storio.

Yn ystod cyfnod cychwynnol Explorage.co.uk, dysgais fwy am farchnata digidol. Erbyn hyn, mae gennyf gwmni llwyddiannus arall o’r enw Huw Davies Cook Projects sy’n darparu strategaethau marchnata effeithlon i fusnesau eraill hefyd.

Os caf i roi rhywfaint o gyngor personol i chi. Dysgwch wrando ar y teimlad ym mêr eich esgyrn, dysgwch sut i wybod beth sy’n teimlo’n iawn.