Huw Meredydd Owen
Huw Meredydd Owen
Huw Meredydd Owen
Trosolwg:
Busnes Pensaernïol
Sectorau:
Adeiladu
Rhanbarth:
Gwynedd

Pensaer ydw i yn ôl fy nghymwysterau, yn arbenigo ar greu ‘lle’, a chynghori ar ddylunio a datblygu. Mi fydda i’n paratoi astudiaethau a strategaethau ar gyfer grwpiau cymunedol a chwmnïau; yn datblygu prosiectau creadigol i’r cyhoedd ac ar gyfer unigolion; yn creu gwaith celfyddydol drwy greu ‘lle’.

Gwnewch eich gwaith cartre, ac fe ddaw hyder yn ei sgîl. 
Breuddwydio - er mwyn gosod amcanion uchelgeisiol.

Huw Meredydd Owen - Huw Meredydd Owen 

 

Mewn gwahanol ffyrdd (cysyniadol, o hyd braich ac yn uniongyrchol) dwi’n anelu - drwy greu ‘lle’ - i holi cymdeithas ynglyn a'i berthynas â’r unigolyn - y drafodaeth y byddwn ni’n ei alw’n ‘cymuned’. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn adeiladau ungell, cyflyru pensaernïol crai, yr 'an-le', anghysonderau a’r hyn sydd heb eu mynegi. Ar hyn o bryd dwi’n cael boddhad mawr yn edrych ar y defnydd celfyddydol o farddoniaeth/ llythrennu, ac yn y gwynt - yn anweledig ond yno’n bendifaddau. 

Bum yn gweithio gyda chwmni pensaernïol am ddwy flynedd ar ôl cymhwyso fel pensaer ac yna gyda phartner sefydlais gwmni pensaernïol yn nhref Pwllheli. Ar ôl 27 mlynedd hapus iawn, penderfynais dorri fy nghwys arbenigol fy hun, a rydw i bellach ers nifer o flynyddoedd yn gweithio fel unigolyn yn hytrach na fel cwmni.

Mi gefais gyngor unwaith, ar sut i lwyddo - “byddwch yn guru” – ‘dwn i ddim am hynny ond dwi’n gweld sut mae bod yn hyderus yn bwysig, credu yn yr hyn yr ydych chi’n wneud, ac ynoch chi’ch hun, a bod yn fwy cywir wrth anelu am amcanion.

Gwefan: http://www.huwmeredyddowen.com/