Ian Rowley
French Flavour
Trosolwg:
Mewnforio cynhyrchion bwyd a diod arbenigol o Ffrainc a chyflenwi allfeydd
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Wrecsam

Fi yw Cyfarwyddwr Cwmni French Flavour – sy’n arbenigo mewn cyflenwi bwyd a diod gwlad Ffrainc.

Bues i’n gweithio ym maes peiriannu yn wreiddiol, ac fel trefnydd addysg undeb, gan annog addysg yn y gweithle. Yn 2003, newidiais i gyfeiriad yn sylweddol a phenderfynu dilyn f’angerdd, a hynny mewn maes lle nad oedd gen i dim profiad.

Am y 10 mlynedd nesaf, roeddwn i’n parhau i weithio mewn diwydiant gan redeg y busnes newydd ochr yn ochr â hynny, gan fy mod yn gwybod, wrth gymryd cyfeiriad cwbl wahanol, y byddai’n rhaid i mi ddysgu’n araf ac yn gyson i lwyddo.

Erbyn hyn, rwy’n cymryd rhan ym mhob agwedd ar y busnes newydd, o ddod o hyd i gynhyrchion a gwerthu, i ddylunio’r wefan a chyllid, ac rydym ni nawr yn dosbarthu mwy a mwy o gynhyrchion o gynhyrchwyr Prydeinig ac, yn arbennig, Cymreig.

 

Ffactorau Llwyddiant: Rwy’n credu bod arnoch chi angen angerdd, cymhelliant ac ethig gwaith mawr, i greu cydberthnasau ar hyd y ffordd ac i beidio byth â rhoi’r gorau i ddysgu na datblygu.

Sgiliau Busnes: Cychwyn Busnesau; Arloesi; Masnach Ryngwladol; Marchnata; Masnachu Ar-lein

Gwefan: www.frenchflavour.co.uk