ioan
Ioan Ings
Akron Productions
Trosolwg:
Llysgennad Ifanc - Cwmni sy’n arbenigo mewn fideograffeg, ffotograffiaeth ac animeiddio.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerfyrddin

‘Akron Productions’ yw enw fy musnes, sef cwmni sy’n arbenigo mewn fideograffeg, ffotograffiaeth ac animeiddio. Rydym yn ymdrin â phopeth, er enghraifft, fideos hyrwyddo, digwyddiadau byw, fideos priodas, ffilmiau byr, a fideos a ffotograffau o fwyd/diod.

Dechreuodd fy nhaith yn y byd entrepreneuraidd pan oeddwn yn 15 oed a minnau yn gorfod dewis lleoliad ar gyfer profiad gwaith. Roedd gen i ddiddordeb mewn ffilm, a minnau’n gweithio ar ychydig o ffilmiau byrion fy hun, felly roeddwn yn gwybod mod i eisiau lleoliad yn y diwydiant ffilm. Gweithiais i gwmni o’r enw Broadside ac wedyn gweithiais fel rhedwr ar ychydig o setiau ffilm gan weithio fy hun i fyny wedyn, a chael profiad ym mhob adran fel yr adran camerâu ac adran y cyfarwyddwr cynorthwyol. Roeddwn yn hoff iawn o ffilm ond roeddwn wedi bod eisiau rhedeg fy musnes fy hun erioed, felly defnyddiais fy mhrofiad o setiau ffilm i sefydlu busnes Fideograffeg/Ffotograffiaeth.

Yr hyn oedd yn anodd i mi ar y dechrau oedd ymddiried ynof fy hun, a gwybod fy mod yn gwneud y penderfyniad iawn. Teimlais fod gen i’r sgiliau angenrheidiol i wneud yr hyn yr oeddwn eisiau ei wneud ond fedrwn i ddim cael gwared â’r llais o hunan-amheuaeth yn fy mhen. Yn y pen draw, yr oedd hunan-amheuaeth yn gymhelliant da; yr oeddwn eisiau profi i’m teulu a’m ffrindiau fy mod yn gwneud y peth iawn.

Fy mhrif ysbrydoliaeth oedd y gwneuthurwyr ffilmiau eraill yn yr ardal a ddilynodd yr hyn yr oeddent yn angerddol yn ei gylch, gan wneud pethau ffantastig ar gefn hynny. Rhoddodd hynny’r hyder i mi ddilyn yr un llwybr, a dilyn fy nghalon hefyd.

Un o’r pethau gorau am fod yn feistr arnaf fy hun ydi cael y gyfres gyntaf honno o swyddi â thâl a sylweddoli fod swydd fy mreuddwydion bellach yn realiti i mi. Does dim all guro’r wefr o gael eich archebu am fis o waith oherwydd eich doniau