Jake Fitzpatrick
Fitzpatrick's Café
Trosolwg:
Athro cicfocsio a pherchennog bwyty
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Gwynedd

Cychwynnais fy musnes ar ôl cael fy niswyddo yn fy rôl ddiwethaf.  Roeddwn yn wirioneddol ddigalon am gyfnod, ond wedyn penderfynais ei bod yn well gweithio i mi fy hun na dibynnu ar unrhyw un arall am gyflogaeth.  Fe ddechreuais ymarfer crefft ymladd, a wnaeth helpu gyda’m hyder a’m cymhelliant. 
 
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymroddedig ac nad ydych yn ofni gwaith caled. Cofiwch fynd yr ail filltir a bod yn well na’ch cystadleuwyr. A dysgu o’ch camgymeriadau bob amser.
Jake Fitzpatrick - Fitzpatrick's Café 
 
Ganwyd ein plentyn cyntaf yr un flwyddyn ag y sefydlodd fy ngwraig a minnau Fitzpatrick’s Café felly roedd yn gromlin ddysgu serth - ac anodd.   Bwyty 50 sedd sydd gennym gyda llecyn gwybodaeth i dwristiaid yng nghefn y caffi. Fe wnaethom hefyd adeiladu balconi yn edrych dros Afon Ogwen.  
 
Yn fuan ar ôl i ni agor, cychwynnodd gwsmer fwyty yn union gyferbyn â ni, mewn cystadleuaeth uniongyrchol.  Ond yn hytrach na digalonni unwaith eto fe benderfynom ni gystadlu a gwella, i adennill ein statws.  Rydym bellach wedi bod yn masnachu ers 18 mlynedd.