James Calder
James Calder
Trosolwg:
Health and Wellbeing
Rhanbarth:
Sir Fynwy

Dwi 24 mlwydd oed ac yn hanu o Gwmbrân, De Cymru. Dwi wedi bod yn entrepreneur ers oeddwn i'n 21 mlwydd oed, yn gyntaf sefydlais fusnes Hyfforddi Personol yn fy nghampfa yn fy nghartref fy hun, ac yna yn dilyn anaf i'm hysgwydd, symudais at yr ochr maeth â Herbalife International, lle dwi bellach yn rhedeg busnes iechyd a lles.

Dwi'n chwilio, marchnata, gwahodd, uwchraddio a chefnogi cwsmeriaid newydd a chwsmeriaid sydd eisoes yn bodoli trwy apwyntiadau 1-1 yng Nghwmbrân, Casnewydd a Chaerdydd, lle buaswn yn eu haddysgu am arwain ffordd o fyw iach ac actif ac yn cofnodi eu hystadegau wythnosol ar glorian tanita.

Yna dwi'n cynnwys gofal dilyn trwy negeseuon testun/galwadau ffôn ac yn adeiladu rhwydwaith o atgyfeiriadau oddi wrth gwsmeriaid hapus. Erbyn heddiw, 3 blynedd a hanner yn ddiweddarach, mae fy nyheadau entrepreneuraidd wedi datblygu angerdd ar gyfer siarad cyhoeddus ac ysgrifennu am hunangred ar gyfer ieuenctid, byddaf yn cyhoeddi fy llyfr cyntaf dros y 3-4 mis nesaf o'r enw 'The Journey of Self Belief' ac yn ddiweddarach byddaf yn rhannu'r cynnwys a'r gwersi a ddysgwyd mewn digwyddiadau i ieuenctid.

O hanes o broblemau difrifol â hunanhyder, trychinebau ariannol ac anawsterau â rheoli pwysau, bellach dwi'n gyrru fy hun bob munud o bob dydd tuag at ysbrydoliaeth a darparu llais o hunan-gred. Neges eich bod yn ddigon