Mae Lucent Dreaming yn gylchgrawn annibynnol ar gyfer ysgrifennu creadigol a chelf, a gaiff ei gyhoeddi mewn print ac ar-lein ers 2018.
Dechreuodd Lucent Dreaming fynd i’r afael â’r diffyg cyfleoedd cyhoeddi yng Nghymru a’r DU ar gyfer awduron, artistiaid a golygyddion newydd.
Fe wnaeth llawer o bethau fy ysbrydoli i ddechrau’r cylchgrawn, gan gynnwys cefnogaeth gan ffrindiau a’r brifysgol, ond hefyd y ffaith fy mod i’n meddwl y gallwn i osgoi’r hyn a oedd, yn fy marn i, yn anghywir yn y byd cyhoeddi.
Mae fy mhryderon fy hun am siarad cyhoeddus a methu yn bethau rydw i wedi dysgu eu rheoli wrth redeg Lucent Dreaming.
Mae bod yn fos arna i fy hun yn golygu penderfynu sut ddiwrnod rydw i am ei gael a chefnogi pobl fel fi sy’n datblygu eu crefft a’u creadigrwydd.