Janet Mier
Janet Mier
Riverford Home Delivery
Trosolwg:
Masnachfraint ym musnes Guy Watson
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Torfaen

Fe sefydlais fy musnes ar ôl gwneud swyddi addysgu, hyfforddi ac mewn cwmni sy'n ymwneud â'r rhyngrwyd.  Ro'n i eisiau newid llwybr fy mywyd, cymryd siawns a gwneud rhywbeth gwahanol. Ro'n i eisiau gweithio i mi fy hun yn hytrach nag i rywun arall. 

"Byddwch yn benderfynol, yn gadarnhaol, yn hyderus ac yn ymrwymedig ac fe allwch lwyddo – byddwch yn greadigol a herio traddodiadau"

Janet Mier - Riverford Home Delivery

Fe gefais fy ysbrydoli gan Guy Watson – ffermwr y flwyddyn a busnes moesegol y flwyddyn - ac fe brynais fasnachfraint yn ei gwmni, Riverford Home Delivery. Fe ddechreuon ni yn Sir Fynwy, cyn mynd ati i brynu masnachfreintiau Caerdydd a Chasnewydd.

Roedd yn anodd ar y dechrau oherwydd y dirwasgiad, ac fe effeithiodd y tywydd gwael arnon ni hefyd.  Fodd bynnag, dwi'n teimlo fy mod wedi gwella bob wythnos ac ein bod bellach yn fusnes mwy effeithiol.  Yn ddelfrydol, hoffwn ein gweld yn awr yn tyfu tua 5-10% bob blwyddyn.