Jeremy Jones
Fulcrum Direct Ltd
Trosolwg:
Helpu pobl i fasnacheiddio a gwneud arian o'u syniadau
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Amrywiol
Rhanbarth:
Caerdydd

Busnes gwasanaeth yw Fulcrum Direct sy'n helpu dyfeiswyr, sefydliadau academaidd a chwmnïau ymchwil i fasnacheiddio a gwneud arian o'u syniadau. Rydyn ni’n canolbwyntio ar gwmnïau technoleg a gwyddorau bywyd, ond gallwn ddatblygu unrhyw syniadau busnes.

Ro'n i eisiau dychwelyd i Gymru, ond roedd dod o hyd i'r swydd gywir neu'r cwmni yr hoffwn i weithio iddyn nhw yn dalcen caled. Felly, penderfynais ddechrau fy nghwmni fy hun.

"Cymerwch eich amser i feddwl am beth ydych am ei wneud. Cynlluniwch a pharatowch cyn mynd ati."

Jeremy Jones - Fulcrum Direct Ltd

Mae fy nghefndir ym myd y gwyddorau, ac rydw i wastad wedi bod â diddordeb mewn arloesedd a thechnoleg newydd. Y rheswm dros ddechrau’r cwmni oedd er mwyn mynd i’r afael â’r her o ddod o hyd i ffordd o wneud arian o’r holl syniadau a dyfeisiadau gan unigolion, grwpiau ymchwil neu gwmnïau.

Rydyn ni’n cael ein hysbrydoli gan y broses o weld y prosiectau yr ydyn ni'n gweithio arnyn nhw yn datblygu hyd nes eu bod yn cael eu masnacheiddio a'u defnyddio mewn cymdeithas, yn ogystal â gwneud digon o arian i'w galluogi i fod ar y farchnad.

Yr her barhaus i ni fel gwasanaeth yw parhau i dyfu. Os gall un unigolyn wneud un prosiect, mae angen deg o bobl arnoch i wneud deg prosiect. Felly, rydych bob amser yn dibynnu ar adnoddau ac mae cymaint o risg yn gysylltiedig â chyflogi pobl.

Erbyn hyn, rydyn ni'n gallu gweld yn llawer gwell faint o bobl sydd ei angen ar gyfer unrhyw brosiect ac rydyn ni felly yn gallu rheoli ein busnes yn well. Mae gweithio i chi eich hun yn cynnig manteision a heriau yn yr un modd.

Pan ydych yn llwyddiannus, rydych yn gwybod mai chi, perchennog y busnes, fydd yn elwa, yn enwedig yn ariannol. Fodd bynnag, rydych hefyd yn gwybod mai chi fydd yn dioddef os nad ydych yn ennill llawer o arian. Os gallwch ddechrau busnes drwy wneud rhywbeth yr ydych yn ei fwynhau, does dim byd gwell na hynny.


Cysylltu gyda Jeremy