Jo Ashburner
Red Dragon Manufacturing Ltd
Trosolwg:
Cynhyrchu tecstilau gan gynnwys baneri a fflagiau
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Abertawe

Mae Jo yn falch iawn o arwain cwmni Cymreig sy’n cynhyrchu nwyddau tecstiliau yn Ne Cymru, y DU – cwmni elw cymdeithasol a ddeilliodd o fusnes ei theulu a sefydlwyd yn 1969.
 
Mae portffolio’r busnes yn cynnwys fflagiau, baneri a byntin ar gyfer pob math o gwsmeriaid – lluoedd arfog, cwmnïau ffilmio, eglwysi, comisiynau corfforaethol a phreifat, timau chwaraeon a hwylio, fflagiau cenedlaethol a rhyngwladol ac roedd RDM yn Gyflenwr Swyddogol i Uwch Gynhadledd NATO Cymru yn 2014.
 
Gwnewch beth bynnag sy’n eich gwneud yn hapus....fyddwch chi byth eisiau rhoi gorau iddi.
Jo Ashburner - Red Dragon Manufacturing Ltd 
 
Cyn sefydlu RD, sefydlodd a datblygodd Jo Noonoo – amrywiaeth o ddillad plant a phethau chwarae cynaliadwy ac organig yn 2004.  Fel rhiant sengl, graddiodd o UWTSD gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Dylunio Patrwm Arwyneb a lansiodd y brand bedwar mis yn ddiweddarach, gan wneud y cynhyrchion yn ei stiwdio uwchben y garej yn ei thŷ. Aeth Noonoo ymlaen i ennill Gwobr Rhodd y Flwyddyn yn 2000 (DU), Gwobr Cynnyrch Cynaliadwy y Flwyddyn (Efrog Newydd) a gwerthodd gynnyrch yn y DU drwy 450 o fanwerthwyr, gan gynnwys John Lewis a ledled y byd drwy wyth dosbarthwr. Cafodd Jo wobr Merch Fusnes Cenedlaethol DU y flwyddyn yn 2006 am ei hymdrech gyda chynhyrchu ethnig a'r brand Noonoo sy’n cael ei ail-lansio yn 2015, ynghyd â nifer o gynhyrchion arloesol a chyffrous eraill.
 

Gwefan: http://www.reddragonflagmakers.co.uk/