Jo Roberts
Fabulous Welsh Cakes
Trosolwg:
Gwneuthurwyr ac Adwerthwyr Pice ar y Maen.
Sectorau:
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Caerdydd

Rwyf wedi bod yn rhedeg Fabulous Welshcakes ers 10 mlynedd. Cyn i mi ddechrau’r busnes gweithiais i Lywodraeth Cynulliad Cymru fel ymgynghorydd llawrydd trwy Howel Food Consultancy. Dros gyfnod o tua 5 mlynedd bûm yn ddigon ffodus i weithio ar nifer o ddigwyddiadau, gan hyrwyddo bwydydd a diodydd o Gymru o amgylch y byd. Yr angerdd hwn at fwyd lleol a gynhyrchwyd yn onest ac i safon dda a arweiniodd ataf yn cychwyn fy musnes fy hun. Erbyn hyn rwy’n cyflogi tîm o 15 o wneuthurwyr ac adwerthwyr pice ar y maen ac rydym yn coginio ac yn gwerthu pice ar y maen 7 niwrnod yr wythnos o’n siop ym Mae Caerdydd. Rydym hefyd yn creu anrhegion pice ar y maen corfforaethol ar gyfer nifer o gwsmeriaid busnes weithiau yn ddegau ac, ar adegau eraill, fesul miloedd ac rydym wedi cyflenwi nifer o ddigwyddiadau o fri, gan gynnwys gwneud y pice ar y maen ar gyfer 3 chinio uwchgynhadledd NATO y llynedd. Rwyf yn uchel fy nghymhelliant ac rwyf yn mwynhau’r heriau y mae rhedeg fy musnes fy hun yn eu cyflwyno.... wel....y mwyafrif ohonynt!