Josef
Josef Roberts
Pai Language Learning
Trosolwg:
Llysgennad Ifanc - Dull dysgu ieithoedd sy’n seiliedig ar ddata
Sectorau:
Iaith / Cyfieithu
Rhanbarth:
Ynys Môn

Ers pan oeddwn yn ifanc, mae gen i ddiddordeb angerddol mewn ieithoedd. Yn 17 oed, y fi oedd y person cyntaf yn y DU i gael ysgoloriaeth i astudio Tsieinëeg dramor, a phan oeddwn yn 21 oed, roeddwn wedi cwblhau gradd mewn astudiaethau Tsieineaidd. Ar ôl treulio llawer o’r degawd diwethaf yn Tsieina, gan weithio ym maes marchnata digidol a dysgu gwahanol ieithoedd i mi fy hun, penderfynais ddychwelyd i Gymru i sefydlu cwmni. Cofrestrais ar gwrs MBA Busnes Rhyngwladol ym mhrifysgol Bangor a sefydlu Pai Language Learning.

Mae’r syniad o ddull dysgu ieithoedd sy’n seiliedig ar ddata yn rhywbeth a ddatblygais yn raddol dros amser. Ar ôl dysgu amryw o ieithoedd hyd at wahanol lefelau, dechreuais sylwi y gallai amlder geiriau ac amlder rhai strwythurau gramadegol, yn ogystal â rhoi mwy o reolaeth i’r dysgwr dros eu profiad o ddysgu, wella’n sylweddol allu person i ddysgu iaith. Mae cyfuno’r ddau beth hefyd yn caniatáu i’r broses gael ei hoptimeiddio. Mae natur fodwlar y cynnwys hefyd yn caniatáu i ni ychwanegu ieithoedd newydd yn gyflym, gan ddefnyddio awtomatiaeth i gyflymu’r broses.

Cefais drafferth erioed i ddod o hyd i waith sy’n manteisio i’r eithaf ar fy sgiliau penodol, ac mi wn fod llawer o bobl yn yr un sefyllfa. Pe cawn i roi rhywfaint o gyngor iddyn nhw, byddwn yn dweud, os na fedrwch chi ddod o hyd i swydd sy’n gweddu i chi, ewch ati i greu un. Nid yn unig y byddwch yn teimlo eich bod yn gwireddu eich potensial, ond cewch hefyd ryddid i weithio yn y ffordd rydych chi’n meddwl sydd orau!